Côr Ffermwyr Hawkstone i berfformio yn Sioe Frenhinol Cymru
Bydd Côr Ffermwyr Hawkstone, a enillodd Britain’s Got Talent 2026, yn perfformio yn Sioe Frenhinol Cymru 2026.
Cafodd y côr ei sefydlu gan Jeremy Clarkson yn wreiddiol fel rhan o ymgyrch hysbysebu ar gyfer Hawkstone, brand diodydd Clarkson.
Bydd y côr yn canu yn y Prif Gylch yn Llanelwedd ar brynhawn Llun 20 Gorffennaf, sef diwrnod agoriadol y sioe.
Mae deg aelod o’r côr o Gymru, gan gynnwys y tenor adnabyddus Aled Wyn Davies.
Ers hynny, mae’r côr wedi datblygu i fod yn grŵp sy’n codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ac unigrwydd yn y gymuned amaethyddol.
Fe enillodd y côr ar y rhaglen Britain’s Got Talent ar ITV ym mis Mai 2026.
Dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Côr Ffermwyr Hawkstone i'r Sioe Frenhinol.
“Bydd eu perfformiad ar y dydd Llun yn y Brif Gylch, o flaen miloedd o ymwelwyr, yn achlysur gwirioneddol arbennig.
“Dyma fydd eu perfformiad swyddogol cyntaf yng Nghymru ers ennill rownd derfynol Britain's Got Talent, ac rydyn ni’n gyffrous dros ben i rannu'r foment honno gyda'n cynulleidfa.”
Dywedodd prif unawdydd benywaidd y côr, Rosie Jones, sy’n ffermwr bîff a defaid o Bowys, ei bod yn “anrhydedd o’r mwyaf” cael gwahoddiad i ganu yn y sioe.
“Mewn cyfnod o galedi, ansicrwydd ac unigrwydd, mae'r côr wedi dod yn lle i gysylltu, cefnogi a deall,” meddai.
“Os yw ein taith yn ysbrydoli eraill neu'n helpu hyd yn oed un unigolyn, yna rydyn ni'n falch dros ben o hynny.”