Carcharu gyrrwr am achosi marwolaeth dynes a oedd yn cerdded i'w heglwys

Andrew Perry (1).png

Mae gyrrwr o Gaerffili sydd â chyflwr yn effeithio ar ei lygaid wedi ei garcharu am fwy na chwe blynedd a hanner am achosi marwolaeth dynes 84 oed tra roedd hi'n croesi ffordd ym Mhengam, wrth iddi fynd i'w heglwys. 

Cafodd Andrew Perry, sy'n 56 oed ei ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Mawrth. 

Roedd e eisoes wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth Gaynor James drwy yrru'n beryglus.

Mae e hefyd wedi ei wahardd rhag gyrru am ei oes. 

Cafodd Heddlu Gwent alwad am wrthdrawiad rhwng car Ford Focus coch yn cael ei yrru gan Andrew Perry, a dynes a oedd yn cerdded ar Stryd Commercial, Pengam toc ar ôl 13:00 ar 22 Chwefror 2024. 

Aeth plismyn a'r gwasanaeth ambiwlans i safle'r gwrthdrawiad.  

Cafodd Gaynor James, o Bengam ei chludo i ysbyty gerllaw a bu farw yno yn ddiweddarach.  

Daeth hi i'r amlwg yn ddiweddarach fod Andrew Perry wedi cael diagnosis clefyd Stargardt yn 2001 a'i fod wedi byw gyda'r cyflwr ar ei lygaid ers mwy na 23 mlynedd. 

Dywedodd y Cwnstabl Spencer Clease: “Mae hwn yn achos trasig a arweiniodd at golli bwyd yn gwbl ddiangen. Rwy'n cydymdeimlo'n ddiffuant â theulu a ffrindiau Gaynor James.

“Roedd y nam ar olwg Perry, oherwydd clefyd Stargardt yn ffactor allweddol a pheryglus. Ni ddylai fod yn gyrru.  

“Penderfyniad Perry i yrru gyda nam ar ei olwg arweiniodd at y gwrthdrawiad, gan achosi marwolaeth Mrs James a oedd yn croesi'r ffordd wrth iddi deithio i'w  heglwys.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.