Y DU yn cyhoeddi sancsiynau newydd i roi mwy o bwysau ar Rwsia

Starmer yng nghynhadledd y G7

Mae’r DU wedi cyhoeddi sancsiynau newydd i roi mwy o bwysau ar Rwsia wrth i Syr Keir Starmer fynychu uwchgynhadledd y G7 yn Ffrainc.

Mae’r pecyn yn cynnwys 70 sancsiwn newydd sy’n targedu fflyd gudd Rwsia, cwmnïau sy’n helpu’r fyddin, a rhwydweithiau ariannol sy’n cael eu defnyddio i osgoi sancsiynau. 

Mae’r sancsiynau’n cynnwys cwmni o’r enw Neptune, sydd, yn ôl y DU, yn helpu i gael technoleg Orllewinol ar gyfer gwasanaethau cudd-wybodaeth milwrol Rwsia. Mae tri chwmni arall a 10 swyddog o asiantaeth GRU Rwsia hefyd yn cael eu targedu. 

Yn ogystal bydd y sancsiynau newydd yn targedu llongau sy’n cludo nwy sydd wedi'i wahardd o Rwsia.

Bydd hyn yn golygu bod mwy na 600 o longau fflyd gudd a llongau nwy Rwsia yn wynebu'r sancsiynau.

Dros y penwythnos, fe wnaeth milwyr Prydain gipio llong o fflyd gudd Rwsia yn y Sianel am y tro cyntaf. 

Mae capten y llong, Ajay Pant, sy’n 38 oed, wedi’i gyhuddo o dorri sancsiynau gan Wasanaeth Erlyn y Goron a bydd yn ymddangos yn y llys ddydd Mawrth. 

Dywedodd Syr Keir: "Mae’r sancsiynau yn targedu’r llongau, yr arian a’r unigolion sy’n cynnal economi ryfel Rwsia ac, yn ei dro, yn bygwth diogelwch Ewrop. 

"Gan weithio gyda’n cynghreiriaid yn y G7, byddwn yn parhau i gynyddu’r pwysau ar Putin a’i gylch o gydweithwyr nes y daw peiriant rhyfel Rwsia i stop a heddwch yn dychwelyd i’n cyfandir."

Tensiwn

Bydd Urenco, sydd wedi’i leoli yn y DU, hefyd yn cyflenwi wraniwm i Energoatom, cwmni ynni niwclear Wcráin, am gyfnod o ddwy flynedd. 

Cytunwyd ar y fargen yr wythnos ddiwethaf, gyda chefnogaeth o £210 miliwn gan gynllun cyllid allforio Llywodraeth y DU.

Daw'r cyhoeddiad wrth i Syr Keir gyfarfod ag arweinwyr eraill yng nghynhadledd y G7 yn Ffrainc i drafod bygythiadau byd-eang, wrth iddo wynebu pwysau cynyddol gartref am sut i ariannu’r Lluoedd Arfog yn y tymor hir. 

Mae posibilrwydd hefyd o densiwn rhyngddo ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump. Cafodd y ddau eu gweld yn eistedd wrth ymyl ei gilydd ar noson gyntaf yr uwchgynhadledd, er bod y berthynas rhyngddynt wedi bod dan straen yn ddiweddar. 

Mae Syr Keir wedi cyhoeddi y bydd plant dan 16 oed yn cael eu gwahardd rhag defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, ar ôl i weinyddiaeth Donald Trump, sy’n gefnogol i’r diwydiant technoleg, rybuddio yn erbyn gwneud hynny.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.