Cytundeb Wylfa 'wedi arwain at adeiladu gorsafoedd niwclear newydd Sweden'
Mae cytundeb i adeiladu gorsaf niwclear newydd yn Wylfa wedi helpu cwmni Prydeinig i ennill cytundeb i adeiladu adweithyddion niwclear newydd yn Sweden, meddai Llywodraeth y DU.
Cafodd Rolls-Royce, cwmni Prydeinig, ei ddewis i arwain cynlluniau y llywodraeth i ddatblygu cenhedlaeth newydd o orsafoedd niwclear ar Ynys Môn.
Bydd tua 3,000 o bobl yn gweithio ar y safle ar anterth y gwaith adeiladu wrth adeiladu tri adweithydd modiwlaidd bach (SMR), a bydd y cynllun yn darparu hyd at 900 o swyddi llawn amser hirdymor.
Yn sgil y cytundeb hwnnw, mae Rolls-Royce bellach wedi ennill cytundeb gwerth sawl biliwn o bunnoedd yn Sweden.
Mae’r cwmni wedi cael ei ddewis gan y cwmni datblygu o Sweden, Videberg Kraft, i adeiladu adweithyddion modiwlaidd bach yno hefyd.
Dywedodd Canghellor y Trysorlys Rachel Reeves fod y cytundeb wedi dod “ar ôl i’r llywodraeth hon gefnogi Rolls-Royce i wneud SMRau cyntaf y DU yn Wylfa”.
“Mae’r cytundeb hwn yn arddangos gallu busnesau Prydain i gystadlu ac ennill yn y farchnad fyd-eang ar gyfer technolegau ynni glân," meddai.
Dywedodd y Prif Weinidog Keir Starmer fod cytundeb Sweden yn “fuddugoliaeth fawr i economi Prydain”, gan ychwanegu ei fod yn dangos y gallai peirianneg y DU helpu i yrru’r newid tuag at ynni glân yn Ewrop.
Fe ychwanegodd yr Ysgrifennydd Ynni Ed Miliband fod y cyhoeddiad yn dystiolaeth bellach bod ynni glân yn cynrychioli “cyfle diwydiannol y ganrif hon” i Brydain.
Y cefndir
Fe wnaeth Llywodraeth y DU gadarnhau y llynedd y byddai gorsaf ynni niwclear newydd yn cael ei hadeiladu ar safle atomfa Wylfa ar Ynys Môn, ar ôl blynyddoedd o oedi.
Bydd y datblygiad yn llai na’r atomfa wreiddiol.
Fe wnaeth arolygwyr cynllunio a benodwyd gan Lywodraeth y DU argymell y dylid gwrthod ail atomfa yn 2019. Roedden nhw wedi rhybuddio am ei heffaith ar fioamrywiaeth, yr economi leol, stoc tai a’r iaith Gymraeg.
Ond nid hynny a arweiniodd yn y pen draw at atal y prosiect, gyda chwmni Hitachi yn rhoi gwybod nad oedden nhw am fwrw ymlaen â’r cynllun ym mis Medi 2020.
Mae cefnogwyr y cynllun yn dweud y gallai datblygiad newydd ar safle’r Wylfa greu miloedd o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol dros y degawdau nesaf, yn ogystal â darparu hwb economaidd mawr i’r ardal.
Yn y cyfamser, mae gwrthwynebwyr yn parhau i godi pryderon am ddiogelwch niwclear, gwastraff ymbelydrol ac effaith bosibl unrhyw ddatblygiad mawr ar gymunedau lleol a’r amgylchedd naturiol.