Newyddion S4C

Cau atyniad ymwelwyr yn Sir Benfro yn gynnar i warchod morloi

Y Lagŵn Glas

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cau pwll morol y Lagŵn Glas yn Sir Benfro i'r cyhoedd ynghynt na'r disgwyl oherwydd bod morloi llwyd sy'n bridio wedi cyrraedd yn gynnar.

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth fod y lagŵn, sydd mewn hen chwarel lechi yn Abereiddi, yn cau i'r cyhoedd rhwng diwedd mis Medi a Thachwedd bob blwyddyn.

Ond er mwyn diogelu'r morloi rhag aflonyddwch fe fydd yn cau ddydd Sadwrn, wythnos ynghynt na'r disgwyl.

Image
Morlo llwyd
Mae'r morloi llwyd wedi cyrraedd yn gynnar.  Llun: Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Dywedodd Mark Underhill, Rheolwr Cefn Gwlad Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Sir Benfro: "Mae dwy wahanol rywogaeth o forloi i'w gweld ym Mhrydain y Morlo cyffredin a'r Morlo llwyd.

"Dim ond Morloi llwyd sydd i'w gweld yn gyson yn Sir Benfro, ac maent yn bresennol drwy gydol y flwyddyn.

"Mae tua hanner poblogaeth Morloi llwyd y byd yn bridio ar ein harfordir, ac amcangyfrif bod cyfanswm o tua 5,000 ohonynt yng ngorllewin Cymru, yn bennaf yn Sir Benfro, gyda thua 1,400 o loi bach yn cael eu geni bob blwyddyn."

Fe fydd ymwelwyr yn dal i allu gwylio’r morloi yn eu cynefin o Lwybr Arfordir Cymru a gyda darparwyr gweithgareddau cydnabyddedig yn yr ardal.

Prif lun: Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.