Newyddion S4C

Amseru ymweliad y Brenin â Chymru 'yn ansensitif’

17/09/2022
Michael Sheen

Mae’r actor Michael Sheen wedi beirniadu ymweliad Brenin Charles III â Chaerdydd ddydd Gwener ar ddiwrnod cofio Owain Glyndŵr “yn ansensitif."

Dywedodd yr actor o Bort Talbot fod penderfyniad Charles III i ddod i Gymru ar 16 Medi am ei ymweliad cyntaf fel Brenin “yn edrych yn llawn ystyr.”

Mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Sheen ei fod yn cydnabod marwolaeth y Frenhines Elizabeth II fel colled o “gymaint o hanes a thraddodiad”, gan gynnig ei gydymdeimladau i’r Teulu Brenhinol.

Dywedodd ei fod yn ychwanegu ei lais i’r nifer sydd wedi nodi'r ‘eironi’ fod dathliadau am Owain Glyndŵr wedi cael eu canslo oherwydd ymweliad brenin o Loegr.

Ond fe ychwanegodd: “I bobl sy’n falch o fod yn Brydeinig, mae’r Frenhines yn symbol amlwg o hynny.

"Ond mae mwy nag un stori yn yr ynysoedd yma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.