Pwrpas teitl Tywysog Cymru 'ddim yn amlwg'
Pwrpas teitl Tywysog Cymru 'ddim yn amlwg'
Mae rhai o haneswyr Cymru wedi cwestiynu'r angen ar gyfer Tywysog Cymru, gan ddweud "nad yw pwrpas y teitl yn amlwg".
Yn dilyn marwolaeth y Frenhines, fe wnaeth y Brenin newydd Charles III enwi ei fab y Tywysog William yn Dywysog Cymru newydd.
Mae etifeddiaeth y Tywysog William o'r teitl wedi hollti barn yng Nghymru, gyda rhai yn galw am ddiddymu'r teitl yn gyfan gwbl.
Daw'r drwg-deimlad yma i'r amlwg yn dilyn ymweliad cyntaf Charles III i Gymru fel Brenin, wrth i grŵp o brotestwyr ymgynnull tu fas i Gastell Caerdydd ddydd Gwener.
Yn ôl yr hanesydd Dr Nia Wyn Jones o Brifysgol Bangor, diffyg pwrpas amlwg y teitl o fewn cyfansoddiad Cymru yw un o'r rhesymau am yr atgasedd.
"Mae ddim yn amlwg iawn beth yw rôl Tywysog Cymru nawr," meddai.
"Mae hwnna falle pam mae'r penderfyniad wedi bod mor ddadleuol yn enwedig y ffaith mae wedi'i gymryd heb unrhyw sgwrs gydag unrhyw gynrychiolaeth o Gymru.
"Does dim rôl cyfansoddiadol o ran unrhyw syniadaeth o Gymru, mae'r rôl yn bodoli o fewn cyfundrefn Lloegr a Chymru."
"Mae fe'n perthyn i Loegr fwy na mae'n perthyn i Gymru."
Cafodd y teitl o Dywysog Cymru ei ddefnyddio gan arweinwyr Cymru yn ystod y canol oesoedd.
Ond yn 1282, wedi i Loegr oresgyn Cymru a Edward I ladd Llywelyn yn ein Llyw Olaf, dechreuoedd y traddodiad o Frenin neu Frenhines Lloegr yn rhoi'r teitl i'w mab hynaf.
Dywedodd Dr Sara Elin Roberts, sydd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caer, mai pwrpas y teitl mwy na dim yw i atgoffa Cymru o'r gorchfygiad.
"Dydy o ddim yn deitl heddiw 'ma sydd yn dal unrhyw rym," meddai.
"Dwi ddim yn meddwl bod o'n deitl sy'n dal unrhyw bwerau neu unrhyw perks chwaith.
"Dwi'n meddwl bod defnyddio'r teitl heddiw 'ma yn cadw'r atgof o'r goncwest yn fyw. Tase neb yn defnyddio'r teitl mae'n bosib 'sa neb yn sôn gymaint."