
'Ysbryd Belle yn dal i fyw' wrth gyhoeddi llyfr i godi ymwybyddiaeth am roi organau
'Ysbryd Belle yn dal i fyw' wrth gyhoeddi llyfr i godi ymwybyddiaeth am roi organau
Mae elusen merch fu farw tra'n disgwyl am drawsblaniad ysgyfaint yn gobeithio dosbarthu llyfr yn y Gymraeg a'r Saesneg i blant i geisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn â rhoi organau.
Bu farw Belle Curran o Sir Benfro yn 2019 yn 10 oed tra'n disgwyl am drawsblaniad ysgyfaint.
Ers ei marwolaeth, mae yna elusen wedi ei sefydlu o'r enw Belle's Story, ac maen nhw yn y broses o gyhoeddi llyfr yn y Gymraeg a'r Saesneg i geisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn â rhoi organau.
Roedd Sarah Thomas yn dysgu Belle o adref pan nad oedd hi yn ddigon da i fynd i'r ysgol.
"Roedd Belle yn llawn sbort a sbri, hoffi celf a chrefft a mewn i bach o bopeth ond yn anffodus, roedd yn dioddef o interstitial lung disease a o'dd hynny yn 'neud hi yn anodd iddi anadlu a gwneud pethe', a pan o'dd hi'n mynd yn hynach wedyn, o'dd raid iddi aros mewn cadair olwyn," meddai.

Mae'r llyfr My Engine Parts wedi ei ysgrifennu gan Roydon Turner ac mae'r llyfr wrthi'n cael ei gyfieithu i'r Gymraeg.
Dywedodd Sarah fod y stori wedi ei seilio ar gymhariaeth yr oedd Belle yn gwneud rhwng ei salwch a swydd ei thad.
"Ma' tad Belle yn mechanic, so o'dd e'n gneud ceir, trwsio ceir, prynu darne' newydd a rhoi nhw mewn i'r car a wedyn ma'r car yn gweithio so 'na shwt o'dd Belle yn trial esbonio i bobl 'na beth o'dd gwmws o'dd ishe i 'neud arni hi, o'dd ishe darn newydd arni hi," meddai.
"Yn anffodus, do'dd hi ddim yn gallu mynd a jyst prynu darn neu rhan a roi e mewn i'w chorff a jyst rhedodd Roydon gyda'r stori hynny wedyn a fe a'th ati wedyn i rhoi y stori My Engine Parts tuag at ei gilydd sef stori gwreiddiol Belle mewn i lyfr plant."

'Wrth ei bodd'
Y bwriad yn y pen draw ydy dosbarthu fersiwn Saesneg a Chymraeg ymhob ysgol gynradd yng Nghymru.
"Bydd e'n dechre gyda phob un ysgol yn Sir Benfro achos mae e'n camp eitha fawr i ni fel dim ond elusen bach a rhan amser y'n ni neud popeth so i ddechre, yn Sir Benfro, bydd pob un ysgol yn ca'l un llyfr Cymraeg a Saesneg a wedyn, o hynny 'mla'n, gawn ni jyst cadarnhau beth yw'r sefyllfa a sut allwn ni fynd ati i gadw fynd gyda'r neges a cal y neges allan."
Bydd y llyfr yn cael ei lansio ar 25 Medi, sydd yn syth ar ôl penblwydd Belle.
"Ni’n trial codi calonnau pawb, ca’l rwbath arbennig i ddathlu y diwrnod pwysig yna trwy lawnsiad y llyfr yn lleol gyda teulu Belle i gyd 'da’n gilydd ac yn edrych ‘mlaen i gal y llyfr allan," meddai Sarah.
Yn ôl Sarah, byddai Belle "wrth ei bodd" yn gweld yr ymwybyddiaeth yn cael ei godi am roi organau.
"Bydde Belle wrth ei bodd. O'dd hi jyst yn ferch o fla'n ei amser ag o'dd hi jyst ishe helpu pob un arall, 'na beth o'dd hi yn y bôn a bydde hi dros ben ei chlustie gyda'r neges yn mynd mas, ei stori hi, jyst gweld e wedi cyhoeddi mewn pinc i gyd a gweld ei llun hi ynddo fe - mae e'n llyfr arbennig, arbennig, arbennig," meddai.
"Mae’n stori sydd jyst yn cymharu car â chorff a mae’n ysgafn ond mae’r stori yn eitha' gryf ynddo fe hefyd – ma' pob un â’u rhan yn y byd so ie, bydde hi wrth ei bodd, yn wên o glust i glust.
"Ma' ysbryd Belle yn dal i fyw, ac o hyn 'mlaen, dyna beth yw stori Belle a ma' hi yn cadw ni fynd drwy ei stori hi."