Newyddion S4C

Dau heddwas wedi eu trywanu yng nghanol Llundain

16/09/2022
Leicester Square / Wikimedia Commons

Mae dau heddwas wedi eu trywanu yng nghanol Llundain. 

Fe wnaeth Heddlu'r Met ddod o hyd i ddyn yn cario cyllell yn ardal Sgwâr Leicester yng nghanol y ddinas am 06:00 fore Gwener. 

Cafodd dau heddwas eu trywanu ac maen nhw ar hyn o bryd yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Fe gafodd taser ei ddefnyddio ac fe wnaeth yr heddlu arestio dyn ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol yn ogystal ag ymosod ar weithiwr y gwasanaethau brys. 

Y gred yw nad ydy'r digwyddiad yn ymwneud â therfysgaeth. 

Dywedodd Maer Llundain, Sadiq Khan, na fydd "ymosodiadau yn erbyn yr heddlu yn cael eu derbyn a bydd y sawl sy'n gyfrifol yn cael eu dal a'u herlyn."

Llun: Wikimedia Commons 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.