Newyddion S4C

Darganfod cannoedd o feddau mewn dinas yn nwyrain Wcráin

CNN 16/09/2022
Izyum

Mae'r awdurdodau yn Wcráin yn dweud fod dros 400 o feddau wedi eu darganfod mewn dinas oedd dan reolaeth lluoedd Rwsia tan yn ddiweddar.

Cafwyd hyd i'r beddau yn ninas Izyum - oedd yn lleoliad ymladd ffyrnig rhwng lluoedd Wcráin a Rwsia ym mis Ebrill.

Yn ôl Gweinyddiaeth Amddiffyn Wcráin mae'r beddau'n dystiolaeth o droseddau rhyfel gan Rwsia, ac fe ddywedodd yr Arlywydd Volodymyr Zelensky y byddai newyddiadurwyr tramor yn cael mynediad i'r safle ble cafodd y beddau eu darganfod.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.