Aaron Ramsey wedi 'synnu' bod clwb Pumas wedi dod â'i gytundeb i ben yn gynnar
Mae Aaron Ramsey yn dweud ei fod wedi "synnu" gan benderfyniad clwb y Pumas ym Mecsico i ddod â'i gytundeb i ben yn gynnar.
Dywedodd chwaraewr canol cae Cymru nad oedd ganddo "unrhyw ddewis ond dychwelyd i Gymru" wrth siarad am ei gyfnod gyda'r clwb am y tro cyntaf.
Mewn datganiad ar Instagram diolchodd Ramsey i hyfforddwyr a staff meddygol y clwb am roi cymorth iddo "trwy gyfnod anodd gydag anafiadau".
Ond ychwanegodd ei fod yn holliach ac yn "edrych ymlaen at fod ar fy ngorau i'r Pumas" pan benderfynodd y clwb ddod â'i gytundeb i ben.
"Hoffwn ddiolch i bobl Mecsico am eu caredigrwydd a'u haelioni ac am wneud i mi a fy nheulu deimlo mor groesawgar yn Ninas Mecsico," meddai.
"Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i'r rheolwr, y staff hyfforddi ac yn enwedig y staff meddygol am fy helpu drwy gyfnod anodd gydag anafiadau.
"Yn anffodus, fe ddaeth fy nghytundeb i ben yn gynnar, oedd wedi fy synnu ac yn amlwg yn siomedig, felly nid oedd gennyf ddewis ond dod adref i Gymru.
"Diolch eto am yr holl gefnogaeth i fi a fy nheulu yn ystod ein hamser ym Mecsico. Mae'n lle hardd a byddwn yn bendant yn dod yn ôl yn fuan."
Cyfnod anodd
Chwaraeodd y Cymro 34 oed chwe gêm yn unig i'r clwb yng nghynghrair Liga MX ar ôl arwyddo cytundeb byrdymor ym mis Gorffennaf.
Bu rhaid iddo aros deufis cyn chwarae am y tro cyntaf wedi iddo wella o anaf dioddefodd tra'n chwarae i Gaerdydd rhai misoedd ynghynt.
Sgoriodd un gôl yn unig yn ystod y cyfnod hwnnw.
Cafodd ei wythnosau olaf ym Mecsico eu heffeithio'n fawr gan ddiflaniad ci ei deulu, Halo, ac roedd wedi cynnig gwobr ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth er mwyn dod o hyd iddo.
Ers dychwelyd i Gymru mae Ramsey wedi bod yn cynorthwyo Craig Bellamy gyda'r tîm cenedlaethol, ac roedd yn rhan o'r tîm hyfforddi ar gyfer gemau olaf Cymru yn eu hymgyrch cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd.

