Parc Cenedlaethol Eryri: Cynllun i godi prisiau parcio i gynhyrchu £500,000 ychwanegol

Pen y Pass

Mae aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cefnogi cynllun sy’n cynnwys codi prisiau parcio er mwyn cynhyrchu £500,000 ychwanegol y flwyddyn.

Dywedodd yr Awdurdod eu bod yn “gweithredu o fewn cyd-destun ariannol heriol” a bod disgwyl i’w diffyg ariannol o £635,850 “gynyddu'n sylweddol”.

Roedd edrych ar ffurf ychwanegol o wneud arian mewn canolfannau ymwelwyr hefyd yn rhan o gynllun ariannol yr awdurdod, tra bod lleihau nifer y staff yn “ddewis olaf”.

Mewn adroddiad ‘Mynd i’r Afael â’r Her Ariannol’ a gyflwynwyd mewn cyfarfod ar 10 Rhagfyr dywedwyd mai codi ffioedd parcio oedd â’r “potensial mwyaf o bell ffordd” i hybu incwm.

Yn y cyfarfod, cytunodd yr aelodau â’r argymhellion i gefnogi egwyddorion Strategaeth Ariannol yr Awdurdod ar gyfer 2026/27.

Roedd ymdrechion i leihau'r diffyg yn y gyllideb eisoes wedi cynnwys cynyddu incwm, a lleihau costau nad ydynt yn gostau staff.

Nododd yr adroddiad fod “lleihau nifer y staff yn cael ei ystyried yn ddewis olaf”.

“Prif gryfder yr Awdurdod yw ei staff wrth gwrs, ac rydym yn ffodus i gael cronfa o staff talentog ac ymroddedig iawn,” meddai’r adroddiad.

“Felly, er bod natur beryglus y sefyllfa ariannol a’i goblygiadau yn cael eu deall yn llawn, byddwn yn gwneud ein gorau glas i osgoi diswyddiadau gorfodol”.

Roedd “swyddogion wedi amcangyfrif gyda rhywfaint o hyder” y gallai cynyddu incwm drwy feysydd parcio a manwerthu gynhyrchu cynnydd incwm o £540,000 yn y tymor byr.

“Rhagwelir y gall yr Awdurdod gynhyrchu incwm parcio ceir ychwanegol o £500,000 y flwyddyn o 2026/27,” meddai’r adroddiad.

“Yn y tymor byr (1-2 flynedd) rwy'n credu bod ein hamrywiaeth o opsiynau sy'n ymwneud ag incwm yn gyfyngedig – ac incwm parcio ceir sydd â'r potensial mwyaf yn y categori hwn o bell ffordd.

“Er bod incwm parcio ceir yn dod â rhywfaint o risg (oherwydd sawl newidyn allanol, gan gynnwys niferoedd ymwelwyr, tywydd, economi ac ati), ystyrir y gallai hyn wneud cyfraniad sylweddol (tua 63%) at fynd i'r afael â'r heriau ariannol y mae'r Awdurdod yn eu hwynebu. 

“Er gwaethaf rhai risgiau wrth ragweld yr incwm hwn, mae'r Awdurdod yn gymharol hyderus yn y ffigur hwn yn seiliedig ar dueddiadau'r gorffennol.”

Llun: Maes parcio Pen y Pass ar lethrau'r Wyddfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.