Rhybudd i'r cyhoeddi osgoi dyn 36 oed sydd wedi dianc o'r carchar yn ne Cymru

Llun: Heddlu Gwent
Liam Wall

Mae Heddlu Gwent yn rhybuddio'r cyhoeddi i gadw draw o ddyn 36 oed sydd wedi dianc o'r carchar yn ne Cymru.

Fe wnaeth Liam Wall, 36 oed ddianc o Garchar Prescoed ger Brynbuga ddydd Sul 14 Rhagfyr.

Fe'i cafwyd yn euog o droseddau yn ymwneud â chyffuriau yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Gorffennaf 2017.

Mae'r heddlu yn credu y gallai Wall fod yn risg i'r cyhoedd gan ei fod wedi dianc o'r carchar.

Mae wedi'i ddisgrifio fel dyn 5 troedfedd 8 modfedd o daldra, yn foel, gyda llygaid brown a barf frown.

Mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod yn gweithredu cynllun i ddod o hyd i Wall a bod y carchar yn cyd-weithio gyda nhw.

Rhybudd y llu yw i bobl gadw draw o Wall os ydyn nhw'n ei weld ac i gysylltu gyda nhw gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2500396403.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.