‘Hynod siomedig’ y bydd cwmni i gefnogi buddsoddiad niwclear yn Nhrawsfynydd yn dod i ben

Newyddion S4C
Trawsfynydd

Mae cynghorydd yn ardal Trawsfynydd wedi dweud ei fod yn “hynod siomedig” y bydd cwmni a gafodd ei sefydlu er mwyn denu safle niwclear newydd i’r ardal yn dod i ben.

Fe gafodd cwmni Egino ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru bedair blynedd yn ôl gyda’r nod o ddenu adweithyddion bychain i safle niwclear Trawsfynydd yng Ngwynedd.

Ond yn ôl gweinidogion dydi'r cwmni, sydd wedi derbyn buddsoddiad o dros £2m, bellach ddim yn gynaliadwy. Maen nhw wedi cadarnhau wrth Newyddion S4C y bydd yn dod i ben ym mis Mawrth.

Dywedodd y cynghorydd annibynnol dros Drawsfynydd, Elfed Powell Roberts ei fod yn anhapus gyda’r penderfyniad. 

“Mae’r penderfyniadau wedi eu gwneud yn ddiweddar, does yna ddim buddsoddiad mawr yn mynd i fod yn Nhrawsfynydd, a da ni’n hynod siomedig am hynny,” meddai.

“A pan mae’r ardal yn cael gwybod y newyddion yna, y peth nesa’ maen nhw’n gwneud ydi dweud eu bod nhw’n gwneud i ffwrdd ag Egino.

“Maen nhw wedi bod yn gweithio yn galed ar ein rhan ni i ddenu busnes ac investment i’r ardal.

“Da ni’n ofnadwy o siomedig rŵan eu bod nhw’n tynnu’r plwg arnon ni."

Ychwanegodd: “Maen nhw wedi bod yn trio denu cwmnïau i’r ardal, ac mae hynny’n waith hanfodol o bwysig.

“Da’ ni eisiau cadw graddedigion a phawb yng nghefn gwlad yma yn yr ardal.

“Dyblu neu dreblu'r gefnogaeth ddylen nhw rŵan - da ni angen mwy o gefnogaeth nid llai.”

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C fod yna addewid o ragor o gefnogaeth ar gyfer yr ardal.

Roedd safle Trawsfynydd yn geffyl blaen ar gyfer adweithydd niwclear modiwlaidd bach (SMR) ar un cyfnod.

Ond cyhoeddwyd ym mis Tachwedd y bydd tri adweithydd niwclear modiwlaidd bach cyntaf y DU yn cael eu gosod ar safle Wylfa, wedi eu dylunio gan gwmni Prydeinig Rolls-Royce SMR. 

Mae adweithyddion modiwlaidd bach yn orsafoedd pŵer niwclear llai, wedi’u cynllunio i’w gosod ar y safle fel modiwlau parod.

Y gobaith yw y bydd y dechnoleg yn gyflymach i'w hadeiladu na gorsafoedd mwy fel Hinkley Point C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.