Trump yn cyflwyno achos cyfreithiol gwerth $5 biliwn yn erbyn y BBC am olygu araith ar Panorama
Mae Donald Trump wedi cyflwyno achos cyfreithiol werth $5bn (£3.7bn) yn erbyn y BBC mewn cysylltiad â’r modd y cafodd ei araith ei golygu ar raglen Panorama.
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn dweud bod ei enw wedi cael ei ddifenwi, yn ôl dogfennau llys yn Florida.
Fis diwethaf fe wnaeth y BBC ymddiheuro i’r Arlywydd am y modd y cafodd y rhaglen ei golygu, ond fe wrthododd y gorfforaeth ei alwadau am iawndal.
Mae tîm cyfreithiol Trump wedi cyhuddo’r BBC o “ffugio ei araith yn fwriadol, mewn modd maleisus a thwyllodrus”.
Nid yw’r BBC wedi ymateb eto i benderfyniad Donald Trump i gyflwyno’r achos cyfreithiol.
Dywedodd Trump fis diwethaf ei fod yn bwriadu siwio’r BBC am y rhaglen ddogfen, a ddarlledwyd yn y DU cyn etholiad yr Unol Daleithiau yn 2024.
“Rwy’n credu bod yn rhaid i mi wneud,” meddai Trump wrth ohebwyr am ei gynlluniau.
“Fe wnaethon nhw dwyllo. Fe wnaethon nhw newid y geiriau oedd yn dod allan o fy ngheg i.”
'Argraff anghywir'
Yn ei araith ar 6 Ionawr 2021, cyn dechrau gwrthdaro yn Capitol yr Unol Daleithiau, dywedodd Trump wrth y dorf: “Rydyn ni’n mynd i gerdded i lawr i’r Capitol, ac rydyn ni’n mynd i gefnogi ein seneddwyr a’n cyngreswyr a’n menywod dewr.”
Mwy na 50 munud yn ddiweddarach, dywedodd: “Ac rydyn ni’n ymladd. Rydyn ni’n ymladd fel uffern.”
Yn rhaglen Panorama, roedd i’w glywed yn dweud: “Rydyn ni’n mynd i gerdded i lawr i’r Capitol... a byddaf yno gyda chi. Ac rydyn ni’n ymladd. Rydyn ni’n ymladd fel uffern.”
Mae’r BBC wedi cydnabod bod y gwaith golygu wedi rhoi’r “argraff anghywir” ei fod wedi “cyflwyno galwad uniongyrchol i weithredu’n dreisgar”.
Ym mis Tachwedd, beirniadodd memo mewnol o fewn y BBC sut y golygwyd yr araith.
Yn sgil y sgandal, ymddiswyddodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie, a phennaeth newyddion y gorfforaeth Deborah Turness.
Fe wnaeth cadeirydd y BBC, Samir Shah, anfon llythyr personol at y Tŷ Gwyn yn ei gwneud hi'n glir i'r Arlywydd Trump ei fod ef a'r gorfforaeth yn ymddiheuro.
Ond roedd y BBC yn anghytuno gyda Donald Trump fod unrhyw sail i hawlio iawndal.
Dywedodd cyfreithwyr y BBC nad oedd unrhyw beth maleisus yn y gwaith golygu ac nad oedd enw da Donald Trump wedi cael ei niweidio gan y rhaglen, gan iddo gael ei ailethol yn fuan ar ôl iddi gael ei darlledu.
Roedden nhw hefyd wedi dweud nad oedd rhaglen Panorama wedi cael ei dangos ar sianeli’r BBC yn yr Unol Daleithiau.
Er bod y rhaglen ddogfen ar gael ar BBC iPlayer, roedd wedi’i chyfyngu i wylwyr yn y DU.
Yn ei achos cyfreithiol, mae Trump yn honni bod cytundebau gan y BBC gyda chwmnïau eraill i ddangos cynnwys y tu allan i’r DU.
Mae’r achos cyfreithiol hefyd yn honni y gallai pobl yn Florida fod wedi cael mynediad at y rhaglen drwy ddefnyddio VPN neu drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ffrydio BritBox.
