Saethwyr traeth Bondi wedi teithio i’r Philipinau fis cyn yr ymosodiad, meddai'r heddlu

Blodau wedi eu gadael i ddioddefwyr ymosodiad traeth Bondi

Mae heddlu Awstralia yn ymchwilio i daith a gymerwyd i’r Philipinau gan dad a mab sy’n cael eu hamau o ladd 15 o bobl mewn dathliad Iddewig ar draeth Bondi yn Sydney, Awstralia, ddydd Sul.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu New South Wales, Mal Lanyon, wrth y cyfryngau ddydd Mawrth fod y rhai a ddrwgdybir wedi teithio i ynysoedd y Philipinau o fewn y mis diwethaf.

Roedd y rhesymau pam y gwnaeth Sajid a Naveed Akram hynny “dan ymchwiliad ar hyn o bryd”.

Aeth y ddau i’r Philipinau ar 1 Tachwedd ac fe wnaethon nhw adael ar 28 Tachwedd.

Mae’r darlledwr ABC News o Awstralia wedi dyfynnu ffynonellau o fewn gwasanaethau diogelwch y wlad yn dweud bod y dynion wedi teithio i’r Philipinau er mwyn derbyn “hyfforddiant milwrol”.

Dywedodd Heddlu Awstralia fod baneri grŵp y Wladwriaeth Islamaidd (IS) a dyfeisiau ffrwydrol wedi’u canfod mewn cerbyd a ddefnyddiwyd gan y dynion, 50 oed a 24 oed.

Bu farw Sajid Akram yn y fan a'r lle tra bod ei fab Naveed Akram yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Dywedodd Prif Weinidog Awstralia fod yr ymosodiad i bob golwg wedi’i “gymell gan ideoleg y Wladwriaeth Islamaidd”.

Mae Anthony Albanese hefyd wedi dweud y bydd yn pwyso am gyfreithiau gynnau llymach.

Dywedodd fod Awstralia yn “gryfach na’r rhai sy’n ceisio ein gwahanu, ac y down ni drwy hyn gyda’n gilydd”.

Mae 24 o bobl a gafodd eu hanafu yn ystod ymosodiad dydd Sul yn Sydney yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty.

Mae tri mewn cyflwr difrifol, a phump mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Roedd yr rheini a gafodd eu lladd yn cynnwys rabi o Brydain, Eli Schlanger, a merch 10 oed.

Llun: Reuters.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.