Newyddion S4C

Gorymdaith flynyddol i nodi diwrnod Owain Glyndŵr wedi ei gohirio

Newyddion S4C 15/09/2022

Gorymdaith flynyddol i nodi diwrnod Owain Glyndŵr wedi ei gohirio

Mae gorymdaith flynyddol yn Sir Dinbych i nodi diwrnod Owain Glyndŵr wedi cael ei gohirio.

Mae 16 Medi yn nodi dechrau gwrthryfel Glyndŵr yn 1400, ond ni fydd gorymdaith i nodi hynny eleni wedi i drefnwyr y digwyddiad gwneud y "penderfyniad anodd" i ohirio yn sgil marwolaeth y Frenhines Elizabeth II.

Er hynny, bydd y seremoni yn y capel yn digwydd, ynghyd â darlith gyda'r nos.

Mae rhai pobl yn bwriadu ymgynnull yng Nghorwen dydd Gwener beth bynnag i dalu teyrnged i'r tywysog a safodd yn erbyn brenhiniaeth Lloegr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.