
Y sylwebydd rygbi Eddie Butler wedi marw
Mae'r sylwebydd chwaraeon, Eddie Butler, wedi marw yn sydyn yn 65 oed.
Yn enedigol o Gasnewydd, fe astudiodd yng Ngholeg Fitzwilliam yng Nghaergrawnt cyn dilyn gyrfa lwyddianus fel chwaraewr rygbi a sylwebydd chwaraeon.
Roedd Eddie yn chwaraewr rygbi brwd gan chwarae fel wythwr i glwb Pont-y-pŵl ac fe chwaraeodd i dîm cyntaf Prifysgol Caergrawnt, cyn mynd ymlaen i fod yn gapten ar Gymru yn ogystal â chael ei ddewis ar gyfer taith y Llewod yn Seland Newydd yn 1983.
Er mwyn dilyn gyrfa yn y maes newyddiaduriaeth, roedd yn rhaid iddo roi diwedd ar ei yrfa fel chwaraewr rygbi.

Wedi iddo raddio, fe aeth ymlaen i weithio fel athro Ffrangeg yng Ngholeg Cheltenham cyn mynd ymlaen i weithio fel swyddog y Wasg a Chyhoeddusrwydd ar gyfer BBC Cymru Wales.
Ers hynny, mae wedi bod yn sylwebu ac yn cyflwyno ar gyfer y BBC, gyda teithiau'r Llewod, sawl Cwpan Rygbi'r Byd a'r Gemau Olympaidd yn rai o'r uchafbwyntiau.
Roedd hefyd yn gefnogwr brwd o annibyniaeth i Gymru, ac yn awdur dwy nofel am rygbi.
Llun: Asiantaeth Huw Evans