Cymru Premier JD: Cei Connah i herio Aberystwyth

Wedi’r seibiant annisgwyl y penwythnos diwethaf bydd gemau’r Cymru Premier JD yn mynd yn eu blaen y penwythnos yma ac yn cychwyn gydag ymweliad Cei Connah i Abersytwyth nos Wener.
Aberystwyth (11eg) v Cei Connah (6ed) | Nos Wener – 20:00
Mae Aberystwyth wedi cael dechrau digon anodd i’r tymor gan golli pedair gêm yn olynol, ac roedd ildio pedair yn erbyn Y Bala yn eu gêm ddiwethaf yn hynod siomedig, yn enwedig gan i gapten yr ymwelwyr Chris Venables gael ei hel o’r maes wedi llai na dau funud o’r gêm.
Ac fe allai fod yn noson heriol arall i’r Gwyrdd a’r Duon gan fod Aberystwyth ar rediad o 11 gêm heb ennill yn erbyn Cei Connah (cyfartal 2, colli 9).
Mae Cei Connah wedi ennill eu tair gêm gartref heb ildio gôl, ond bydd Neil Gibson yn gobeithio gall y Nomadiaid gasglu eu pwynt cyntaf oddi cartref ar ôl colli yn erbyn y ddau uchaf, Met Caerdydd a’r Seintiau Newydd ym mis Awst.