Pryderon am ddiogelwch rhaeadrau ym Mhowys wedi marwolaeth tri o bobl

Rachael a Helen Patching, a Corey Longdon

Mae crwner wedi codi pryderon am ddiogelwch ger rhaeadrau poblogaidd ym Mhowys, ar ôl i dri o bobl farw yno o fewn 18 mis.

Clywodd Llys Crwner Pontypridd fod Rachael Patching, 33 oed, a Helen Patching, 52 oed, wedi marw wrth ymweld â rhaeadrau Ystradfellte yn 2023. 

Yn 2024 bu farw Corey Longdon, 26 oed, yn ystod taith i'r un lleoliad.

Ddydd Iau, clywodd cwest ar y cyd fod angen rhoi mwy o fesurau diogelwch yn eu lle er mwyn atal marwolaethau ar y llwybr cerdded poblogaidd yn y dyfodol.

Dywedodd y crwner cynorthwyol Rachel Knight fod ganddi bryderon am ddiffyg signal ffôn "nad yw'n bodoli" yn yr ardal, a dywedodd y gallai'r ffordd y mae'r llwybrau wedi'u harwyddo achosi dryswch i gerddwyr dibrofiad.

Mae'r rhaeadrau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhan o lwybr cerdded ac yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Gwyliau

Clywodd y cwest fod y Patchings, o Gaint, yn caru'r awyr agored ac wedi teithio i Gymru am wyliau cerdded.

Fe wnaeth y cwpl foddi ym mis Ionawr 2023 yn Sgwd y Pannwr, ac fe ddaeth aelodau o'r cyhoedd o hyd i'w cyrff yn y dŵr.

Cafwyd hyd i eiddo'r ddwy, gan gynnwys polion cerdded a sach gefn, ar lan yr afon.

Y gred yw bod un o’r menywod wedi llithro a syrthio tra bod y llall wedi mynd i’r dŵr er mwyn achub ei gwraig.

Dywedodd datganiad a ddarllenwyd ar ran teulu Rachael yn y llys: “Mae colli Rachael a Helen ill dwy wedi bod yn ddinistriol i’n teulu a’n ffrindiau.

“Dydyn ni ddim eisiau damwain drasig arall yn y lleoliad yma, gan adael teulu arall i wynebu’r hyn rydyn ni wedi bod drwyddo.”

Signal ffôn

Cododd y teulu bryderon am y diffyg signal i ffonau symudol yn yr ardal, oedd yn ei gwneud hi'n anodd i alw am gymorth.

Fe wnaeth y teulu hefyd awgrymu nad oedd digon o rybuddion wrth y rhaeadr.

Ym mis Mehefin 2024 fe wnaeth Mr Longdon, oedd yn cerdded ar hyd y llwybr gyda'i fodryb, Lisa Lane, gwympo wrth geisio dod o hyd i lwybr byr i'r rhaeadr.

Mewn datganiad a ddarllenwyd i'r llys, dywedodd Ms Lane ei bod wedi clywed "sŵn uchel" a "rhywun yn gweiddi am gymorth" ar ôl i'w nai ddiflannu o'r golwg.

Clywodd y cwest fod Mr Longdon, o Gaerloyw, wedi'i gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty ond roedd wedi dioddef anafiadau nad oedd modd eu goroesi.

Mae ei deulu hefyd yn credu nad oedd digon o arwyddion i rybuddio pobl am y peryglon ar hyd y llwybr.

Arwyddion

Dywedodd Catherine Mealing-Jones, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fod arwyddion a chyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth o faterion diogelwch.

Dywedodd ei bod yn "fodlon" bod gan y mynedfeydd mwyaf poblogaidd i'r llwybr yr arwyddion cywir a rhybuddiodd y gallai mesurau eraill, fel cylchoedd bwiau achub, achosi peryglon ychwanegol yn y dŵr neu annog pobl i nofio.

Dywedodd Samuel Jones, oedd yn cynrychioli Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cwest, fod "buddsoddiad sylweddol, llwybrau newydd a ffensys" wedi'u rhoi ar waith ger y safle lle syrthiodd Mr Longdon mewn ymdrech i wella diogelwch.

"Mae'r sefydliadau hyn yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif ac mae'n rhaid iddynt gydbwyso eu cyfrifoldebau â'r angen i warchod yr amgylchedd yn y lleoliadau hyn," ychwanegodd.

"Y realiti mewn lle fel hwn yw y gall pobl fynd lle maen nhw'n dewis mynd a deall y risg wrth wneud hynny."

Mae adroddiad Ms Knight wedi'i gyfeirio at Gyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac awdurdodau lleol eraill y mae'n dweud bod yn rhaid iddynt wneud mwy i wella diogelwch i ymwelwyr.

Dywedodd: “Rwy’n pryderu bod y signal ffôn yn wael neu ddim yn bodoli yn llawer o’r lleoliadau prysuraf a mwyaf anghysbell, lle mae’r digwyddiadau mwyaf difrifol yn digwydd.

“Dylid ystyried ateb i’r mater hwn.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.