Arweinydd Cyngor Abertawe'n galw ar benaethiaid URC i ystyried eu dyfodol
Mae arweinydd Cyngor Abertawe wedi galw ar benaethiaid Undeb Rygbi Cymru i ystyried eu dyfodol, yn dilyn y pryderon cynyddol am ddyfodol rhanbarth rygbi'r Gweilch.
Fe ddaeth ei alwad mewn cyfweliad gyda'r BBC yn dilyn cyhoeddiad gan yr Undeb eu bod yn bwriadu gwerthu rhanbarth Rygbi Caerdydd i gwmni Y11 Sport, perchnogion y Gweilch.
Fe gymerodd URC reolaeth o ranbarth y brifddinas y llynedd ar ôl i’r clwb gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.
Dywedodd Rob Stewart, arweinydd y cyngor, fod yr amser wedi dod i brif weithredwr yr Undeb, Abi Tierney, ac aelodau Bwrdd Undeb Rygbi Cymru i ystyried eu sefyllfa.
Yn gynharach ddydd Iau, fe alwodd ar yr Undeb i rhoi stop ar eu cynllun i gwtogi nifer y rhanbarthau o bedwar i dri.
Bygwth treftadaeth
Yn dilyn cyfarfodydd gyda swyddogion Undeb Rygbi Cymru a’r Gweilch, rhybuddiodd y Cynghorydd Stewart fod y cynllun yn bygwth treftadaeth rygbi y rhanbarth a dyfodol hirdymor y gamp yn Abertawe.
Galwodd ar Undeb Rygbi Cymru i “oedi” ac ailystyried ei ddull o weithredu.
Dywedodd: “Mae’r cyngor wedi’i synnu gan y cynigion hyn gan ein bod wedi bod yn gweithio gyda’r Gweilch ar ailddatblygu Sain Helen fel eu cartref newydd ar gyfer rygbi rhanbarthol yn Abertawe.
“Roedd yn siomedig iawn clywed yr hyn oedd gan Undeb Rygbi Cymru i’w ddweud. Roedd arwydd clir nad oeddent yn gweld unrhyw ddyfodol hyfyw i’r Gweilch o fewn eu trefniadau newydd.
“Rwyf wedi annog Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, i oedi eu proses nawr ac i ailystyried.
“Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau rygbi rhanbarthol yn Abertawe a pharhau i bwyso ar Undeb Rygbi Cymru ar y penderfyniad hwn.
“Roedd y cynllun i ailddatblygu Sain Helen yn dibynnu ar y Gweilch yn parhau i fod yn un o dimau rhanbarthol proffesiynol Cymru ac ni allwn ymrwymo unrhyw arian i Sain Helen nes bod y mater hwn wedi’i ddatrys.”
'Rhesymeg'
Heriodd y Cynghorydd Stewart resymeg Undeb Rygbi Cymru a thegwch y broses hefyd. “Nid oeddwn yn cytuno â’r rhesymeg a amlinellwyd ganddynt.
"Cwestiynais y broses a’r meini prawf y maent wedi’u mabwysiadu. Os nad yw pedwar rhanbarth yn bosibl mwyach, yna rhaid i’r broses fod yn deg o leiaf.
"Ar hyn o bryd, dim ond un ochr sydd yn nwylo’r gweinyddwyr, Caerdydd, a dyna’r tîm sy’n eiddo i Undeb Rygbi Cymru ei hun.
“Yn lle hynny, gallai Undeb Rygbi Cymru seilio’r penderfyniad ar lwyddiant: pa ranbarth sydd wedi cyflawni canlyniadau, wedi cynhyrchu chwaraewyr, ac wedi adeiladu’r llwybrau cryfaf? Ar y meini prawf hynny, mae’r Gweilch yn sefyll allan fel rhanbarth mwyaf llwyddiannus Cymru.
"Ar sail unrhyw fesur teg, dylid ei gadw. Mae cefnogwyr rygbi yn Abertawe, ar draws y rhanbarth a ledled Cymru yn gwybod mai dyma’r penderfyniad anghywir."
Y11
Fe ddywedodd yr Undeb ddydd Iau mai Y11 fydd perchnogion newydd Rygbi Caerdydd "unwaith i'r pryniant gael ei gadarnhau" ac fe fydd "y clwb yn parhau i fod yn annibynnol ac yn chwarae eu gemau yn y Brifddinas".
Fe fydd Y11 yn parhau'n berchnogion ar y Gweilch ac fe fyddant yn cystadlu yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig a Chystadlaethau Ewrop (EPCR) tan o leiaf ddiwedd tymor 2026/27.
Dywed yr Undeb mai eu blaenoriaeth yw "parhau i gefnogi’r ddau glwb, gan rannu gwybodaeth gyfredol a pherthnasol trwy gydol camau nesaf y broses".
Prif Lun: Chwaraewyr y Gweilch a chae Sain Helen yn Abertawe