Perchnogion y Gweilch i brynu Rygbi Caerdydd
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau eu bwriad i werthu Rygbi Caerdydd i berchnogion y Gweilch.
Mewn datganiad ddydd Iau, fe gadarnhaodd yr Undeb eu bwriad i werthu'r rhanbarth i gwmni Y11 Sport.
Fe fydd yr Undeb ac Y11 bellach yn trafod manylion terfynol y cytundeb, heb gynnwys unrhyw gwmni arall wnaeth gais i brynu Rygbi Caerdydd.
Fe gymerodd URC reolaeth o ranbarth y brifddinas y llynedd ar ôl i’r clwb gael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.
Mae’r undeb wedi dweud mai eu bwriad yw cwtogi nifer o ranbarthau Cymru o bedwar i dri.
Fe ddywedodd yr Undeb ddydd Iau mai Y11 fydd perchnogion newydd Rygbi Caerdydd "unwaith i'r pryniant gael ei gadarnhau" ac fe fydd "y clwb yn parhau i fod yn annibynnol ac yn chwarae eu gemau yn y Brifddinas".
Fe fydd Y11 yn parhau'n berchnogion ar y Gweilch ac fe fyddant yn cystadlu yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig a Chystadlaethau Ewrop (EPCR) tan o leiaf ddiwedd tymor 2026/27.
Dywed yr Undeb mai eu blaenoriaeth yw "parhau i gefnogi’r ddau glwb, gan rannu gwybodaeth gyfredol a pherthnasol trwy gydol camau nesaf y broses".
Fe ddywedodd Prif Weithredwr y Gweilch Lance Bradley: "Yn gyntaf, dwi eisiau ymddiheuro i chi gyd am nad oeddwn i'n gallu cyfathrebu â chi cyn hyn, wedi i'r newyddion gael ei rannu yr wythnos hon fod Y11 wedi cael ei ddewis gan URC fel y dewis yr oedden nhw'n ffafrio ar gyfer Rygbi Caerdydd.
"Os yw cytundeb ar gyfer Rygbi Caerdydd yn cyrraedd y terfyn, fe fyddai hyn yn gweld Y11 yn perchnogi ac yn gweithredu ar gyfer y Gweilch a Chaerdydd, gyda'r ddau ranbarth yn parhau i chwarae fel timau ar wahân.
Ychwanegodd: "Ond yn bwysig, dwi eisiau ei gwneud hi'n glir y bydd y Gweilch yn parhau i chwarae yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig a Chystadlaethau Ewrop (EPCR) tan o leiaf ddiwedd tymor 2026/27.
"Rydym ni yn canolbwyntio yn llwyr ar weddill y tymor, ac rydym ni'n gwneud y paratoadau arferol ar gyfer y tymor nesaf."