Dyfalu y gallai Andy Burnham sefyll mewn isetholiad

Andy Burnham

Mae dyfalu y gallai Maer Manceinion, Andy Burnham,  sefyll mewn isetholiad ar gyrion y ddinas wedi i AS gyhoeddi y bydd yn camu o’r neilltu.

Mae sïon wedi lledaenu ers misoedd y gallai Andy Burnham herio'r Prif Weinidog, Syr Keir Starmer am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Daw'r dyfalu diweddaraf wedi i’r AS Andrew Gwynne gadarnhau y bydd yn camu o’r neilltu o’i etholaeth Gorton a Denton ar gyrion de ddwyrain Manceinion.

Dywedodd ei fod yn gwneud hynny ar ôl dioddef o “broblemau iechyd sylweddol”.

“Bydd isetholiad yn fuan ac rwy'n dymuno'r gorau i'm olynydd, pwy bynnag ydyw, wrth gynrychioli'r etholaeth orau yn y DU, yn fy marn i,” meddai.

Nid yw Andy Burnham wedi ymateb eto i’r sïon, gan ddweud yn gynharach ddydd Iau ei fod “yn y tywyllwch” ynglŷn â chynlluniau Andrew Gwynne.

Fe gafodd Andrew Gwynne, a oedd yn weinidog iechyd yn Llywodraeth y DU, ei ddiswyddo ym mis Chwefror y llynedd ar ôl gyrru negeseuon WhatsApp sarhaus.

Roedd y negeseuon yn cynnwys jôc yn awgrymu y byddai unigolyn hŷn oedd yn byw yn ei etholaeth wedi marw erbyn yr etholiad nesaf.

Wrth ymateb i’r newyddion bod Andrew Gwynne yn bwriadu ymddiswyddo, dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur: “Rydym yn edrych ymlaen at weld trigolion lleol yn Gorton a Denton yn cael y cyfle cyn bo hir i gael y gynrychiolaeth y maent yn eu haeddu gydag AS Llafur newydd.

“Tra bod plaid Reform yn llenwi eu rhengoedd gyda mwy a mwy o gyn-Dorïaid, bydd gan bobl sy’n byw yn Gorton a Denton y cyfle cyn bo hir i ethol AS Llafur a fydd yn canolbwyntio’n barhaus ar fynd i’r afael â chostau byw, torri rhestrau aros y GIG a dod â buddsoddiad a swyddi i’r gymuned leol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.