Angen i ddatganoli 'gyflawni' er mwyn atal annibyniaeth, meddai Eluned Morgan
Mae angen i ddatganoli gael ei weld yn gweithio i Gymru er mwyn atal annibyniaeth, meddai’r Prif Weinidog.
Dywedodd Eluned Morgan nad oedd pobl wedi llawn werthfawrogi “arwyddocâd” arolwg barn oedd yn dangos y gallai Plaid Cymru a’r Gwyrddion ennill mwyafrif o’r seddi yn etholiad Senedd 2026.
Mae’r ddwy blaid yn dweud eu bod nhw’n cefnogi annibyniaeth i Gymru.
Wrth siarad â Sefydliad y Llywodraeth fore Iau, galwodd hi am gyfran deg o gyllid Llywodraeth y DU ar gyfer rheilffyrdd, ymchwil a buddsoddi.
Meddai: “Llafur yw plaid datganoli, yr unig blaid sydd wedi ymrwymo i Gymru gref o fewn undeb cryf, ond heddiw mae arolygon barn yn awgrymu bod rhai yng Nghymru eisiau mynd ymhellach – llawer ymhellach.
“Mae’n hawdd tanamcangyfrif pa mor gyflym y gall dadleuon cyfansoddiadol newid.
“Byddai’r cynnydd mewn cenedlaetholdeb yng Nghymru oedd i’w weld yn yr arolwg barn diweddaraf yn rhoi mwyafrif i ddwy blaid o blaid annibyniaeth, Plaid Cymru a’r Gwyrddion, yng Nghymru.
“Mae ymwahanu bellach ar yr agenda yn ein cenedl. Ar hyn o bryd nid yw arwyddocâd y foment hon yn atseinio fel y dylai.”
Dywedodd fod cefnogaeth i annibyniaeth yn cynyddu "pan fydd gwleidyddiaeth yn teimlo'n sownd neu'n ansicr ac mae'n gostwng pan fydd pobl yn gweld datganoli'n cyflawni".
'Tegwch'
Fe wnaeth y Prif Weinidog ailadrodd bod Llywodraeth Cymru yn ceisio datganoli’r heddlu, rheilffyrdd, cyfiawnder ieuenctid a’r gwasanaeth prawf, ynghyd â throsglwyddo pwerau Ystad y Goron.
Dywedodd: “Fel rhan o’n pennod newydd ar ddatganoli, mae’n rhaid i ni sicrhau bod fframweithiau ar draws y DU yn galluogi arloesedd.
“Rwy’n cynnig dyfarnwr annibynnol newydd i sicrhau tegwch ariannol ar draws y cenhedloedd.
“Mae’n rhaid i’r bennod newydd gael ei seilio ar ‘fformiwla cyfran deg’ fel y caiff Cymru ei chyfran deg o adnoddau’r DU yn awtomatig mewn meysydd allweddol fel rheilffyrdd, cyfiawnder ac ymchwil a datblygu.
"Rwy’n credu y dylai Cymru dderbyn, ar y lleiaf, gyfran Barnett o’r holl gyllid buddsoddi ledled y DU.
“Dyna beth mae Llywodraeth Cymru yr wyf fi’n ei harwain yn ei wneud a dyna beth mae’r bennod nesaf yn ymwneud ag o.”
Ymateb
Wrth ymateb i araith Eluned Morgan, dywedodd Heledd Fychan AS Plaid Cymru ei bod yn “anonest” er honni bod Llafur bellach yn hyrwyddo datganoli neu fuddiannau Cymru.
“Roedd hon yn araith gan blaid sy’n ceisio aros yn berthnasol pan fydd pobl Cymru yn eu herio ar eu methiant i gyflawni mewn llywodraeth,” meddai.
“Mae polau piniwn yn dangos bod pobl Cymru eisiau plaid a fydd mewn gwirionedd yn sefyll dros eu cenedl, ac ar 7 Mai bydd gan bleidleiswyr y cyfle i ddewis arweinyddiaeth newydd a fydd bob amser yn sefyll dros Gymru gyda Phlaid Cymru.”
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru bod y Blaid Lafur wedi “colli stêm” yng Nghymru ac ar ei ffordd allan.
“Mae ein meddygon, cleifion, athrawon, disgyblion, ffermwyr, perchnogion busnesau, modurwyr, rhieni a threthdalwyr wedi cael eu bwrw’n galed gan Lafur a’u partneriaid yn y Blaid ers dechrau datganoli.
“Ym mis Mai, bydd Reform yn cynnig newid go iawn yma yng Nghymru.”
