GTA 6 yn torri recordiau - ond all Cymru fanteisio ar dwf y diwydiant gemau?

Mae Gav Murphy ac Eva Davies yn credu bod cyfle i Gymru ehangu ei sector gemau cyfrifiadurol
GTA a chyfranwyr y stori

Mae un o'r gemau mwyaf hir-ddisgwyliedig yn hanes y diwydiant gemau fideo, Grand Theft Auto VI, wedi dod allan yr wythnos hon, gan achosi cynnwrf ar draws y byd.

Mae'r gêm newydd gan Rockstar Games, sydd â phencadlys yng Nghaeredin, eisoes wedi creu biliynau o bunnoedd o refeniw yn ôl amcangyfrifon cynnar, gan gadarnhau maint a dylanwad economaidd y sector ledled y byd.

Ond wrth i'r diwydiant byd-eang barhau i ehangu, mae cwestiwn yn codi yng Nghymru: a all y wlad ddatblygu sector sy'n gallu cystadlu a manteisio ar y twf hwnnw?

Mae myfyrwyr fel Eva Davies sy'n gobeithio adeiladu gyrfa yn y maes yn dadlau bod angen mwy o gymorth a buddsoddiad i wireddu'r potensial.

"Ni i gyd yn meddwl am, fel, America, ond mae llawer o bobl yn gwledydd bach fel Cymru yn gallu gwneud yr un peth," meddai Eva, sy'n astudio technoleg digidol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

"Rwy'n rili credu bod y llywodraeth yn gallu manteisio ar hynny a chael mwy o bobl mynd mewn i'r diwydiant. Os bydd gyda ni rywbeth fel hwnna, bydd llawer o bobl yn gallu symud i Gymru ar gyfer swyddi, ac mae'n gallu helpu economi'r wlad."

Faint sy'n gweithio yn y sector yng Nghymru?

Mae'r diwydiant gemau wedi trawsnewid yn sylweddol dros y degawdau diwethaf. O gemau dau-ddimensiwn cymharol syml, mae'r dechnoleg erbyn hyn yn gallu cynhyrchu bydoedd digidol sy'n nes nag erioed at realiti.

Yng Nghymru, mae'r sector yn tyfu. Yn ôl ymchwil gan Brifysgol De Cymru, roedd 103 o gwmnïau gemau fideo yn gweithredu yng Nghymru yn ystod 2024.

Serch hynny, mae maint y gweithlu yn parhau'n gymharol fach. Dim ond 0.6% o weithwyr datblygu gemau'r Deyrnas Unedig sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, o'i gymharu â 9.1% yn yr Alban.

Mae rhai sydd wedi gwneud bywoliaeth allan o'r sector fel Gav Murphy, sydd bellach yn byw yn yr Unol Daleithiau, yn dadlau bod angen mwy o fuddsoddiad os yw Cymru am ddatblygu diwydiant mwy cynaliadwy a chreu rhagor o swyddi medrus.

"Mae'r diwydiant cyfrifiaduron yn fwy nag unrhyw ddiwydiant arall yn y byd, o ran arian, o ran cynulleidfa. Mae'n weird achos mae pobl dal i feddwl am video games fel y niche, ond maen nhw'n un o'r pethau mwyaf poblogaidd yn y byd.

"So fi'n meddwl falle mae ddim mor anodd i rywun fel Rockstar edrych ar Gymru a dweud, 'wel, actually, dylen ni gael stiwdio fanna hefyd,' os mae'r skills yna, os mae'r employees yna i'w cael.

"Mae shwt gymaint o opportunities am ffilmiau, teledu a stwff fel 'na yng Nghymru, a fi'n meddwl mewn cwpwl o flynyddoedd, falle bydd ni'n gweld yr un peth efo gemau."

Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod cymorth yn cael ei ddarparu.

"Mae Cymru Greadigol yn darparu cymorth wedi'i dargedu i'r sector gemau ac, ers 2020, mae wedi cefnogi mwy na 100 o fusnesau gemau i ddatblygu a thyfu drwy fuddsoddi dros £5.7 miliwn yn y sector gan hefyd helpu pobl i ddechrau gyrfa yn y sectorau gemau, esports a digidol creadigol," meddai mewn datganiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.