Cyhuddo Rwsia o 'bryfocio bwriadol' wrth i daflegrau honedig lanio yng Ngwlad Pwyl

Prif Weinidog Gwlad Pwyl, Donald Tusk, yn cadeirio cyfarfod brys ddydd Gwener. (Llun: Donald Tusk/X)
Donald Tusk

Mae gweinidogion yng Ngwlad Pwyl wedi cyhuddo Rwsia o “bryfocio bwriadol” wedi i daflegrau a drôn honedig lanio ar diriogaeth y wlad yn ystod ymosodiadau ar Wcráin.

Cafodd ffrwydradau eu clywed mewn tri lleoliad yn nwyrain y wlad, sy’n ffinio ag Wcráin, yn ystod oriau mân fore Gwener.

Yn ôl swyddogion Pwylaidd, dwy roced ac un drôn jet a achosodd y ffrwydradau. Chafodd neb ei anafu.

Dywedodd y Prif Weinidog, Donald Tusk, bod ymchwiliadau’n dangos bod y gwrthrychau a syrthiodd o’r awyr o darddiad Rwsiaidd, ac fe gyhuddodd y Kremlin o dargedu’r ardal gan fod ymarferion milwrol gan wledydd sy’n cefnogi Wcráin yn digwydd gerllaw.

“Yn ystod yr ymosodiadau torfol ar Wcráin dros nos, fe ddaeth tri gwrthrych - mwy na thebyg dwy roced ac un drôn jet - i fewn i ofod awyr Bwylaidd a syrthio i’r ddaear yng Ngwlad Pwyl,” meddai Tusk.

“Dydy o ddim cyd-ddigwyddiad bod y gwrthrychau yma wedi syrthio yn agos i’r lleoliad ble mae ymarferion byddinoedd ‘Clymblaid y Parod’, gyda chefnogaeth milwr Pwylaidd, yn Nowa Dęba.”

‘Clymblaid y Parod’ yw’r enw ar grŵp o wledydd, dan arweinyddiaeth Prydain a Ffrainc, sy’n cefnogi Wcráin yn ei brwydr yn erbyn Rwsia.

Nid dyma’r tro cyntaf i daflegrau neu ddronau lanio yng Ngwlad Pwyl ers i Rwsia ymosod ar Wcráin ym 2022, gan esgor ar ryfel sydd wedi para bron i bum mlynedd erbyn hyn.

Mae mwy na dwsin o achosion wedi eu cofnodi, gyda’r un mwyaf ym Medi 2025 yn cynnwys tua 20 drôn o Rwsia. Bu farw dau o Bwyliaid ym mis Tachwedd 2022 pan wnaeth taflegryn o systemau amddiffynnol Wcráin daro pentref ger y ffin.

Mae Rwsia wedi gwadu targedu Gwlad Pwyl yn y gorffennol, ond mae’r awdurdodau yn Warsaw a gwledydd eraill ystlys ddwyreiniol NATO a’r Undeb Ewropeaidd yn cyhuddo Moscow o ddefnyddio tactegau hybrid i bryfocio a phrofi ymateb gwledydd y rhanbarth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.