Roger Federer i ymddeol o chwarae tenis proffesiynol
Mae'r chwaraewr tenis Roger Federer wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o'i yrfa broffesiynol.
Fe fydd Federer yn cystadlu am Gwpan Laver wythnos nesaf ond dyna fydd ei dwrnamaint proffesiynol olaf.
Dywedodd Federer bod ymddeol yn deimlad "chwerwfelys" iddo ar ôl 24 mlynedd o chwarae'n broffesiynol.
Mae Federer wedi bod yn dioddef o anafiadau dros y tair blynedd diwethaf, ond dywedodd nawr bod angen iddo "sylweddoli mai dyma'r amser i roi diwedd ar [ei] yrfa broffesiynol".
Yn 41 oed, mae Federer wedi chwarae dros 1,500 gêm, ac yn y cyfnod hwnnw wedi ennill 103 teitl senglau.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd Federer: "Yn olaf, i'r gêm denis: Dwi'n dy garu di a gwnaf i byth dy adael".
Llun: Olympics