Teyrnged i 'ffrind, mab a brawd ffyddlon' fu farw mewn gwrthdrawiad
Mae teulu dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ger Pontypridd wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Jac Thomas, 18, yn y fan a'r lle ar 10 Medi ar Heol Commercial ym Medlinog.
Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu fod "pawb a oedd yn adnabod Jac yn ei garu a'i barchu.
"Roedd yn llawn egni, yn garedig ac yn fwy na dim, yn ffrind, mab a brawd ffyddlon."
Ychwanegodd y teulu fod Jac newydd "ddechrau darganfod ei ffordd mewn bywyd ac roedd yn edrych ymlaen i weld be fyddai'r bennod nesaf yn ei chynnig.
"Bydd pawb a oedd y ei adnabod yn ei fethu ac mae hi wedi bod yn galonogol iawn i ni fel teulu yn y geiriau caredig a'r gefnogaeth gan y gymuned gyfan."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan nodi cyfeirnod 2200307880.