Y Cymro cyntaf i ddyfarnu gêm bêl-droed grŵp yn Ewrop ers pum mlynedd
15/09/2022
Iwan Arwel Griffith fydd y dyfarnwr cyntaf o Gymru i ddyfarnu gêm grŵp yng nghystadlaethau pêl-droed dynion Ewrop ers pum mlynedd.
Bydd y dyfarnwr o Gonwy yn cymryd rheolaeth o'r gêm Cyngres Ewropa rhwng Žalgiris a Basel nos Iau.
Y dyfarnwr diwethaf i ddyfarnu yng ngemau’r grŵp oedd Lee Evans pan gymerodd reolaeth o BSC Young Boys yn erbyn Skënderbeu ym mis Rhagfyr 2017.
Cafodd Mr Griffith ei ychwanegu at restr dyfarnwyr FIFA yn 2017 ac mae wedi dyfarnu gemau mewn nifer o gystadlaethau rhyngwladol dan 17 ac 19.
Ym mis Medi 2020 fe wnaeth ddyfarnu gêm ragbrofol EWRO 2020 rhwng San Marino a Chyprus.