Newyddion S4C

Ymweliad swyddogol cyntaf y Brenin Charles III â Chymru

16/09/2022

Ymweliad swyddogol cyntaf y Brenin Charles III â Chymru

Mae'r Brenin Charles III wedi ymweld â Chymru ddydd Gwener yn ei ymweliad cyntaf i'r wlad ers marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II. 

Cyrhaeddodd y Brenin gyda'r Frenhines Gydweddog Llandaf ychydig wedi 11:00 a gadael am rhyw 15:45.

Roedd cannoedd wedi ymgasglu gerllaw wrth i'r Brenin deithio ar y ffordd i'r Eglwys Gadeiriol lle gwnaeth y ddau ymuno â chynulleidfa wadd mewn gwasanaeth o weddi a myfyrio ar fywyd y Frenhines.

Cafodd gwasanaeth ei arwain gan Ddeon Dros Dro Llandaf, Michael Komor, gyda'r Esgob Llandaf, June Osborne, yn arwain y gweddïau. 

Image
Eglwys
Eglwys Gadeiriol Llandaf fore Gwener.

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ddarllen llith ac roedd yna gynrychiolaeth gan gynrychiolwyr eglwysi a chymunedau ffydd eraill yng Nghymru hefyd.

Roedd côr yn canu anthem Gweddi Gymreig a gafodd ei chyfansoddi gan Paul Mealor a'r geiriau gan Dr Grahame Davies, gyda'r delynores swyddogol Tywysog Cymru, Alis Huws a'r cyn delynores Frenhinol, Catrin Finch, yn cyfeilio. 

Yn dilyn y gwasanaeth, fe wnaeth y Brenin a'r Frenhines Gyweddog deithio i'r Senedd lle y gwnaeth gyfarfod ag arweinwyr y Senedd, ac fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, gynnig ei gydymdeimladau.

Image
Y Brenin a'r Frenhines Gydweddog
Y Brenin a'r Frenhines Gydweddog yn cyrraedd y Senedd ddydd Gwener. Llun: Senedd Cymru

Un o aelodau tîm diogelwch y Senedd, Shahzad Khan, oedd wedi ei ddewis unwaith yn rhagor er mwyn cyflawni rôl seremonïol cludwr y byrllysg ar gyfer ymweliad y Brenin â'r Senedd. 

Mewn araith yn y Senedd, dywedodd y Brenin mai "braint oedd bod yn Dywysog Cymru mor hir.

"Yn awr, bydd fy mab, William, yn derbyn y teitl. Mae ganddo ef gariad dwfn at Gymru."

Ychwanegodd bod "lle arbennig i Gymru yng nghalon fy mam." 

Dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones, bod "ein stori yn hen, ond mae ein democratiaeth yn ifanc a'n uchelgeisiol."

Fe wnaeth grŵp o 12 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru gwrdd â'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog gan siarad am y gwaith y maent yn ei wneud wrth gynrychioli lleisiau pobl ifanc Cymru. 

Disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad oedd ar y grisiau yn y Senedd i gwrdd â'r Cwpl Brenhinol ac roedd dwy delynores o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cerys Rees a Nia Evans, yn perfformio wrth i'r Brenin a'r Frenhines Gydweddog deithio o amgylch y Senedd. 

Yn dilyn y cyfnod yn y Senedd, fe wnaeth y Brenin a'r Frenhines Gydweddog gyfarch aelodau'r cyhoedd cyn teithio i Gastell Caerdydd i gwrdd â chynrychiolwyr Nawdd Brenhinol ac aelodau o Gymunedau Ffydd gwahanol.

Fe wnaeth y Brenin hefyd gyfarfod tu ôl i ddrysau caeedig gyda'r Prif Weinidog yn ogystal â Llywydd y Senedd, Elin Jones. 

Er mwyn cadw'r cyhoedd yn ddiogel, roedd nifer o ffyrdd y brifddinas ar gau ddydd Gwener ac roedd pobl wedi'u hannog i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu gerdded i un o'r tri digwyddiad. 

Mae'r Llyfrau Cydymdeimlad yn Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd yn parhau ar agor yn ddyddiol rhwng 09:00 a 17:00 tan 17:00 ddydd Llun sef diwrnod Angladd Gwladol y Frenhines. 

Mae'r Brenin eisioes wedi ymweld â Gogledd Iwerddon yn ogystal â'r Alban, lle bu farw Ei Mawrhydi y Frenhines yng Nghastell Balmoral ar 8 Medi. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.