Arestio dyn yn dilyn sawl digwyddiad gydag arf aer yn Llandudno

Mae dyn wedi cael ei arestio yn dilyn sawl digwyddiad gydag arf aer yn Llandudno.
Roedd heddlu arfog wedi cael eu gweld ar Heol Bryn Lupus yn Llanrhos, Llandudno tua 17:30 ddydd Mercher.
Fe wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gadarnhau bod dyn 36 mlwydd oed wedi cael ei arestio.
Mae hyn yn dilyn sawl adroddiad o ddigwyddiadau yn yr ardal, gan gynnwys dau berson yn dweud bod reiffl aer wedi saethu atyn nhw wrth iddyn nhw bigo mwyar duon.
Mae’r cyhoedd wedi cael eu hysbysu nad oes yna unrhyw reswm i ddychryn.
Dywedodd Prif Arolygydd Dave Cust: "Yn dilyn digwyddiadau diweddar yn ardal Llandudno yn ymwneud ag arf aer, gallwn gadarnhau yn dilyn gwarant chwilio ar gyfeiriad ar Heol Bryn Lupus yn Llanrhos, mae dyn 36 mlwydd oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac achosi difrod troseddol ac yn parhau yn y ddalfa yn ystod y cyfnod hwn.
"Mae presenoldeb yr heddlu yn parhau yn ardal Llanrhos ond hoffwn dawelu meddyliau’r cyhoedd nad oes yna unrhyw reswm i ddychryn," meddai.
"Hoffwn hefyd ddiolch i’r trigolion lleol ar Heol Bryn Lupus am eu cefnogaeth a chydweithrediad parhaus."