Penodi Matty Jones fel hyfforddwr newydd Cymru dan 21
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi penodi Matty Jones fel hyfforddwr newydd y tîm dan 21.
Chwaraeodd Jones 13 gwaith i Gymru yn ystod ei yrfa, gan dreulio amser gyda chlybiau Leeds United a Leicester City.
Dechreuodd ei yrfa hyfforddi gyda CPD Abertawe gan weithio gyda'r carfannau dan oedran.
Ymunodd Jones â'r Gymdeithas yn 2020, gan gymryd awenau'r tîm dan 18 cyn symud i weithio gyda Gemma Grainger gyda'r tîm menywod.
Yn dilyn y newyddion, dywedodd Jones ei fod yn "ddiolchgar iawn" am y cyfle i hyfforddi'r tîm.
"Mae’n anodd cuddio’r emosiwn sydd yn dod gyda’r newyddion oherwydd rwy’n teimlo’r balchder a’r angerdd,” meddai.
“Mae cynrychioli Cymru yn rhywbeth arbennig iawn ac rwyf wastad wedi bod yn falch o hynny.
"Ces i nifer o heriau yn ystod fy ngyrfa chwarae ac rwy’n gobeithio bydd y profiadau hynny yn medru fy helpu pan rwyf yn gweithio ac yn cefnogi’r chwaraewyr ifanc yn ei llwybr i’r tîm cyntaf.”
Bydd Cymru yn teithio i Awstria ar gyfer gêm gyntaf Jones wrth y llyw ar 27 Medi fel rhan o'r paratodau ar gyfer yr ymgyrch ragbrofol am bencampwriaeth Euro 2025 dan 21.