Cynnal angladd Olivia Pratt-Korbel yn Lerpwl

Cynnal angladd Olivia Pratt-Korbel yn Lerpwl
Mae teulu Olivia Pratt-Korbel wedi gofyn i alarwyr wisgo "sblash o binc" er mwyn cofio'r ferch naw oed yn ystod ei hangladd ddydd Iau.
Bu farw Olivia ar ôl cael ei saethu yn ei chartref yn Lerpwl wedi i ddyn redeg i mewn i'w chartref tra'n rhedeg ar ôl dyn arall ar 22 Awst.
Cafodd yr angladd Olivia ei gynnal yn eglwys St Margaret Mary yn ardal Knotty Ash y ddinas fore dydd Iau.
Fe fydd disgyblion ysgol gynradd St Margaret Mary, lle aeth Olivia i'r ysgol, hefyd yn gwisgo pinc er mwyn cofio'i bywyd.
Wrth siarad yn yr angladd, dywedodd ei mam, Cheryl, na fyddai ei merch "byth yn cael ei hanghofio".
"Ni fyddaf byth yn dweud hwyl fawr, ond byddaf yn dweud, nos da, caru ti, a welai di yn y bore."