Diwedd y pandemig 'ar y gorwel' medd Sefydliad Iechyd y Byd
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn dweud bod diwedd pandemig Covid-19 "ar y gorwel" wrth i farwolaethau rhyngwladol ddisgyn ymhellach.
Yn ôl ystadegau diweddar, roedd y marwolaethau rhyngwladol o goronafeirws yn yr wythnos hyd at 5 Medi ar ei lefel isaf ers mis Mawrth 2020, y mis pan ddechreuodd y cyfnod clo cyntaf yn y DU.
Yn ôl y WHO, mae bron i 20 miliwn o farwolaethau wedi'u hosgoi oherwydd rhaglenni brechu ar draws y byd, sydd wedi darparu tua 12 biliwn o ddosau o'r brechlyn.
Er hyn, mae'r sefydliad wedi rhybuddio bod Covid-19 dal yn peri'r bygythiad o "argyfwng meddygol" wedi i fwy na filiwn o bobl farw o'r haint yn 2022 hyn yn hyn.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y WHO, Dr Tedros Adhanom Ghebreyesus, bod y byd yn y "sefyllfa gorau" ers dechrau'r pandemig.
"Dydy rhedwr marathon ddim yn stopio pan mae'r llinell derfyn ar y gorwel, maen nhw'n rhedeg yn galetach gyda'i holl egni. Dyna beth sydd rhaid i ni neud," meddai.
"Os nad ydym yn cymryd y cyfle nawr, mae yna risg o ragor o amrywiolion, rhagor o farwolaethau a rhagor o ansicrwydd."
Mae'r WHO bellach wedi rhyddhau chwe pholisi i lywodraethau'r byd ddilyn er mwyn sicrhau diwedd y pandemig, gan gynnwys cyngor ar sut i reoli heintiadau a lleihau camwybodaeth o'r haint.