Argae Bae Caerdydd ar gau ar gyfer cyngerdd Liam Gallagher
15/09/2022
Fe fydd argae Bae Caerdydd ar gau ddydd Iau ar gyfer cyngerdd Liam Gallagher.
Bydd Pastel, Huw Stephens a Paul Gallagher hefyd yn ymddangos yn y gyngerdd, gyda'r Charlatans yn cefnogi Liam.
Bydd yr argae yn cau am 15:00 ac yn parhau ar gau tan 23:30.
Bydd cychod yn gallu parhau i gael mynediad a gadael Bae Caerdydd drwy giât ar gau.
Fe fydd ffyrdd ar gau yng Nghei Britannia, Tro'r Harbwr a Ffordd Porth Teigr.
Bydd y gyngerdd ym Mhen Alexandra yn dechrau am 16:00.