'Dros ben llestri': Gohirio rhai apwyntiadau iechyd ar ddydd angladd y Frenhines

'Dros ben llestri': Gohirio rhai apwyntiadau iechyd ar ddydd angladd y Frenhines
Mae rhai apwyntiadau iechyd mewn rhannau o Gymru wedi eu gohirio ddydd Llun nesaf oherwydd yr Ŵyl y Banc ychwanegol.
Mae nifer o fyrddau iechyd wedi newid trefniadau yn sgil angladd y Frenhines. Ond nid pawb sy'n hapus a hynny.
Roedd Wil Morus Jones i fod i gael apwyntiad ysbyty ddydd Llun ar ôl aros mwy na blwyddyn amdano.
Ond fydd hynny ddim yn digwydd nawr wedi i Ŵyl Banc gael ei gyhoeddi ar gyfer angladd y Frenhines.
"Y cwbl dros ben llestri, hollol, hollol, mae’r ddrama yma yn hollol, hollol annerbyniol," meddai.
"’Dyn ni’n meddwl am ŵyl y banc fel rhywbeth i ni fynd i fwynhau ein hunain, ond y disgwyl yn fanna oedd i ni aros adre' yn wylofain a rhincian dannedd dros y teledu wrth weld yr angladd ’ma. Hollol annerbyniol."
Y darlun ar draws Cymru
Mae’r darlun yn amrywio ar draws Cymru.
Yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, bydd meddygfeydd a fferyllfeydd wedi cau a dim ond apwyntiadau brys fydd mewn clinigau ac ysbytai.
Yn ardal Bae Abertawe, bydd llawdriniaethau brys a chanser a brechu yn erbyn Covid-19 yn parhau, chemotherapi a dialysis arennol yn gostwng i wasanaeth Gŵyl Banc, ond bydd meddygfeydd yn cau ac apwyntiadau cleifion allanol yn cael eu gohirio.
Yn ardal Cwm Taf hefyd, bydd meddygfeydd a llawer o fferyllfeydd yn cau, bydd gofal a llawdriniaethau brys yn parhau ond bydd nifer o glinigau dydd i ddydd yn cau.
Yn y gogledd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud y dylai unrhyw un sydd ag apwyntiad neu driniaeth ddydd Llun gymryd y bydd hynny’n digwydd yn ôl y trefniant, oni bai eu bod nhw’n clywed yn wahanol.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dweud y byddan nhw’n cysylltu â chleifion os bydd eu llawdriniaeth neu apwyntiad angen ei aildrefnu.
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod yn disgwyl i fyrddau iechyd weithredu fel ar unrhyw Ŵyl y Banc arferol.
Does dim rheidrwydd ar bethau i gau ddydd Llun. Ond mi fydd sawl agwedd o fywyd dydd i ddydd yn dod i stop a rhai gwasanaethau i gleifion iechyd yn eu plith.