Bachgen 13 oed y ieuengaf i chwarae pêl-droed proffesiynol yn y DU

14/09/2022
Christopher Atherton

Mae bachgen 13 oed wedi torri record fel y chwaraewr ieuengaf erioed i chwarae gêm bêl-droed proffesiynol ym Mhrydain.

Fe ddaeth Christopher Atherton sydd yn 13 oed a 329 diwrnod, oddi ar y fainc mewn gêm gwpan cynghrair Gogledd Iwerddon rhwng Glenavon a Dollingstown.

Torrodd y chwaraewr ifanc record 42 blwyddyn, y chwaraewr ieuengaf cyn hynny oedd Eamon Collins wnaeth chwarae i Blackpool yn 14 oed a 323 diwrnod.

Creodd Atherton gôl gyda'i gyffyrddiad gyntaf oddi ar y fainc wrth i'w dîm guro Dollingstown 6-0.

Mae Atherton wedi bod gyda'r clwb am bron i ddeng mlynedd, a dywedodd hyfforddwr Glenavon mai Atheron oedd y chwaraewr gorau iddo weld ers blynyddoedd.

Llun: Twitter/Glenavon FC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.