Diarddel yr AS Ceidwadol James Evans o grŵp ei blaid yn y Senedd 'am siarad â Reform'

James Evans

Mae aelod Ceidwadol o’r Senedd wedi colli chwip y blaid ar ôl iddo ddweud ei fod yn parhau i drafod â Reform.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar bod James Evans, yr aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, wedi gadael cabinet yr wrthblaid a’i fod wedi cymryd chwip y blaid oddi arno.

Dywedodd Millar iddo wneud hynny fore Mawrth "ar ôl cael gwybod gan James ei fod yn parhau i ymgysylltu â chynrychiolwyr Reform ynghylch y posibilrwydd o adael y blaid”.

Roedd wedi dweud ddydd Gwener na fyddai yn gwneud hynny, meddai Darren Millar.

Mewn datganiad, dywedodd James Evans: “Rwyf wedi bod yn bryderus ers peth amser ynghylch cyfeiriad y Blaid Geidwadol ar lefel y DU ac rwy’n teimlo nad yw bellach yn cynrychioli fy ngwerthoedd a'm credoau ceidwadol.

“Dylai gwleidyddiaeth fod yn eglwys eang o safbwyntiau a barn, ac mae’n ddiwrnod trist pan nad yw’r Blaid yn caniatáu rhyddid i lefaru na beirniadaeth.

“Rwy’n parchu fy nghydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig, yn enwedig Darren Millar AS yr arweinydd a Paul Davies AS, ond rwy’n teimlo nad yw Plaid Geidwadol y DU bellach yn cynrychioli fy marn a’m gwerthoedd.

“Mae fy ffocws yn parhau i fod 100% ar gynrychioli pobl Brycheiniog a Sir Faesyfed hyd eithaf fy ngallu. Byddaf yn cymryd peth amser yn yr wythnosau nesaf i ystyried fy nyfodol gwleidyddol," meddai.

Mae hynny'n golygu y bydd yn aelod annibynnol am y tro.

Fe wnaeth aelod arall o'r Ceidwadwyr, Laura Anne Jones, gyhoeddi ei bod yn gadael y blaid i ymuno â phlaid Reform UK ym mis Gorffennaf y llynedd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.