Elin Jones: Parch y Teulu Brenhinol at y Senedd 'bron â bod yn fwy' na pharch Llywodraeth y DU

Elin Jones: Parch y Teulu Brenhinol at y Senedd 'bron â bod yn fwy' na pharch Llywodraeth y DU

Mae Gweinidog Cabinet dros Gyllid Llywodraeth Cymru, a chyn-Lywydd y Senedd, Elin Jones, wedi awgrymu bod y parch y mae'r Teulu Brenhinol wedi ei ddangos at Senedd Cymru dros y blynyddoedd "bron â bod yn fwy" na'r parch gan Lywodraeth y DU.

Daw ei sylwadau cyn i'r Brenin a'r Frenhines ymweld â Chaerdydd ddydd Iau ar gyfer agoriad seremonïol y Seithfed Senedd.

Dyma fydd y tro cyntaf i'r Brenin Charles III agor y Senedd ers iddo ddod yn frenin yn 2022.

Bydd yr achlysur hefyd yn un hanesyddol, gan mai dyma fydd y tro cyntaf ers dechrau datganoli i'r seremoni gael ei chynnal gyda Llywodraeth yng Nghymru nad yw dan arweiniad y Blaid Lafur.

Mae Plaid Cymru bellach yn arwain Llywodraeth Cymru, wedi iddi ennill y nifer fwyaf o seddi yn etholiad mis Mai.

Mae Elin Jones, sy'n cynrychioli Ceredigion Penfro, yn un o ddim ond dau Aelod presennol sydd wedi gwasanaethu ym mhob un o saith tymor y Cynulliad a'r Senedd ers 1999.

Yr unig Aelod arall yw Lynne Neagle o'r Blaid Lafur, sy'n cynrychioli Sir Fynwy Torfaen.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r Aelodau, mae gan Ms Jones brofiad personol o arwain y seremoni, wedi iddi wasanaethu fel Llywydd y Senedd am ddegawd rhwng 2016 a 2026.

Wrth siarad â Newyddion S4C, disgrifiodd y fraint o lywyddu ar ddau agoriad seremonïol ym mhresenoldeb y Frenhines Elizabeth II.

"Mae llywyddu ar agoriad swyddogol y Senedd yn anrhydedd," meddai.

Image
Elin ar brenin
Elin Jones a'r Brenin yn y Senedd yn 2024 (Llun: Reuters)

Roedd hefyd yn canmol y parch y mae'r Teulu Brenhinol wedi ei ddangos at y Senedd.

"Un peth dwi wedi sylwi ar hyd yr amser gyda chyfraniadau'r Frenhines neu'r Brenin pan mae e hefyd wedi siarad yn y Senedd yma, yw eu bod nhw'n deall fod yna Senedd yng Nghymru," meddai.

Yn ôl Ms Jones, mae'r Teulu Brenhinol yn deall statws y Senedd a'i chyfrifoldebau i bobl Cymru.

Ychwanegodd ei bod yn teimlo bod y parch hwnnw "bron â bod yn fwy na'r parch" y mae'r Senedd wedi ei gael gan Lywodraeth y DU dros y blynyddoedd.

"Mae'n bwysig fod y Senedd yma'n cael ei pharchu," meddai, gan bwysleisio arwyddocâd presenoldeb pennaeth y wladwriaeth yn y seremoni.

'Dwi'n weriniaethwraig fy hunan'

Er ei chefnogaeth i rôl y Brenin yn y seremoni, dywedodd Ms Jones: "Dwi'n weriniaethwraig fy hunan." 

Mae'r Aelod dros Geredigion hefyd wedi datgan y byddai'n pleidleisio o blaid pennaeth gwladwriaeth etholedig pe bai refferendwm yn cael ei gynnal.

Ond mae hefyd yn derbyn mai'r Brenin yw pennaeth y wladwriaeth ar hyn o bryd, ac yn credu ei bod hi'n bwysig ei fod yn rhan o agoriad y Senedd.

Esboniodd ei bod yn gysurus â'r sefyllfa bresennol, gan ei bod yn adlewyrchu dymuniad pobl Cymru ar hyn o bryd.

Yn ôl Ms Jones, mae'n bwysig bod y Senedd yn cael ei chydnabod fel un o seneddau gwledydd y DU, a bod hynny'n cael ei adlewyrchu ym mhresenoldeb y Brenin.

Mae'r Brenin wedi ymweld â'r Senedd sawl gwaith o'r blaen, gan gynnwys ym mis Medi 2022, pan ddaeth i dderbyn cynnig o gydymdeimlad yn dilyn marwolaeth ei fam, y Frenhines Elizabeth II.

Image
Y brenin yn y senedd 2024
Y Brenin yn y Senedd 2026

Elin Jones oedd y Llywydd ar y pryd, ac fe groesawodd y Brenin a'r Frenhines i'r Siambr.

Dychwelodd y Brenin i'r Senedd ym mis Gorffennaf 2024 i nodi 25 mlynedd ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol.

Yn ystod yr ymweliad hwnnw, fe anerchodd Aelodau'r Senedd yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan ganmol datblygiad y sefydliad dros chwarter canrif.

Mae Ms Jones yn credu bod y Brenin yn deall hanes Cymru a rôl y frenhiniaeth yn y wlad.

"Mae'n siŵr bydd y Brenin wedi gwneud ei waith cartref fel mae o wedi neud ar hyd yr amser," meddai.

Awgrymodd hefyd fod rhai o'i sylwadau blaenorol am hanes Cymru wedi bod yn fwy gonest nag y byddai rhai wedi ei ddisgwyl.

"Mae'n bron yn werth darllen rhwng y llinellau llawn cymaint â beth sydd yn cael ei ddweud," meddai. 

Sgwrs olaf gyda'r Frenhines

Wrth edrych yn ôl ar ei chyfnod fel Llywydd, fe gofiodd Ms Jones am ei sgwrs olaf gyda'r Frenhines Elizabeth II yn ystod agoriad y Chweched Senedd yn 2021.

Yn ôl Ms Jones, bu'r ddwy yn trafod sut roedd y Senedd wedi datblygu ers i'r Frenhines agor y Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf ym 1999.

Roedd hefyd wedi sôn wrth y Frenhines am y cynlluniau i gynyddu nifer yr Aelodau o'r Senedd.

"Ei chwestiwn hi i fi oedd sut o'n i'n mynd i allu ffitio pawb mewn yn y Siambr fach oedd gyda ni," meddai.

Image
Y Frenhines a Elin Jones
Elin Jones gyda'r Frenhines Elizabeth II (Llun: Reuters)

Fe eglurodd iddi ddweud bod cynlluniau ar y gweill i ymestyn y Siambr er mwyn gwneud lle.

Daeth y cynlluniau hynny'n realiti yn etholiad mis Mai eleni, pan gynyddodd nifer Aelodau'r Senedd o 60 i 96.

Roedd y newidiadau hefyd yn cynnwys cyflwyno system bleidleisio newydd, gyda 16 etholaeth yn ethol chwe Aelod yr un.

Wrth fyfyrio ar ei phrofiadau ers 1999, dywedodd Ms Jones fod Cymru wedi datblygu "fel gwlad yn ei hawl ei hunan" dros y cyfnod hwnnw, wrth i fwy o bwerau gael eu datganoli.

Roedd diwygio'r Senedd yn rhan bwysig o'i gwaith yn ystod ei degawd fel Llywydd.

Bu hefyd yn arwain gwaith i sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru, ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl 16 a 17 oed, a newid enw'r Cynulliad Cenedlaethol i Senedd Cymru.

Datblygiad y Senedd

Cafodd y Cynulliad Cenedlaethol ei sefydlu ym 1999 yn dilyn refferendwm datganoli 1997.

Ei Lywydd cyntaf oedd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a fu'n arwain y sefydliad rhwng 1999 a 2011.

Roedd ganddo rôl allweddol yn natblygiad y Cynulliad yn ystod ei flynyddoedd cynnar, gan gynnwys goruchwylio'r gwaith o sefydlu cartref parhaol iddo ym Mae Caerdydd.

Cafodd adeilad presennol y Senedd ei agor yn swyddogol gan y Frenhines Elizabeth II yn 2006.

Image
Y Frenhines a Dafydd Elis Thomas
Y Frenhines a Dafydd Ellis Thomas ar achlysur Agoriad Seremonïol Cyntaf y Senedd

Yn dilyn marwolaeth Dafydd Elis-Thomas ym mis Chwefror 2025, fe roddodd Elin Jones deyrnged iddo gan ei ddisgrifio fel "craig sylfaen ein Senedd".

Dywedodd ar y pryd ei fod wedi bod yn awyddus i sefydlu democratiaeth fodern o'r dechrau, yn hytrach na dilyn traddodiadau seneddol y gorffennol.

Rosemary Butler oedd Llywydd y Cynulliad rhwng 2011 a 2016, cyn i Elin Jones gymryd yr awenau.

Wrth sôn am ei dull hi o arwain yr agoriadau seremonïol, esboniodd Ms Jones ei bod eisiau i bawb oedd yn bresennol, gan gynnwys aelodau'r teulu brenhinol, deimlo'n gyfforddus.

Roedd hi am i'r digwyddiadau fod yn naturiol Gymreig ac yn barchus, ond heb fod yn rhy ffurfiol na chynnwys gormod o rwysg.

Yn ôl Ms Jones, bydd gan y Llywydd newydd, Huw Irranca-Davies, ei ffordd ei hun o arwain seremoni ddydd Iau.

Agoriad y Seithfed Senedd

Bydd seremoni ddydd Iau yn nodi dechrau tymor newydd y Senedd yn swyddogol yn dilyn etholiad 7 Mai.

Bydd y Brenin a'r Frenhines yn cyrraedd Bae Caerdydd tua amser cinio, cyn cael eu croesawu gan y Llywydd presennol, Huw Irranca-Davies, a'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth.

Bydd y Brenin yn annerch Aelodau'r Senedd yn y Siambr, cyn i'r Prif Weinidog ymateb i'w araith.

Ond er gwaethaf arwyddocâd yr agoriad, pwysleisiodd Ms Jones mai gwaith beunyddiol y Senedd yw'r peth pwysicaf.

"Mae pob diwrnod yn bwysig yn y Senedd yma," meddai.

Yn ôl Ms Jones, mae'r agoriad yn ddiwrnod i ddangos ffydd yn nemocratiaeth Cymru, ond y gwaith sy'n parhau wedi'r seremoni sydd bwysicaf.

Pwysleisiodd mai prif bwrpas y Senedd yw ethol Llywodraeth sy'n gallu gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl Cymru.

"Dyna'r test bob tro," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.