Dolgellau i groesawu Elfyn Evans adref gyda digwyddiad arbennig

Llun: Reuters/WRC
Elfyn Evans

Fe fydd digwyddiad arbennig i ddathlu camp Elfyn Evans a’i gyd-yrrwr Scott Martin yn cael ei gynnal yn Nolgellau nos Iau yn dilyn eu llwyddiant ysgubol wrth gipio teitl Pencampwyr Rali’r Byd.

Fe lwyddodd Evans a Martin i ennill y bencampwriaeth yn Rali Sardinia o drwch blewyn, wedi i gar Oliver Solberg o Sweden ddod oddi ar y cwrs ar gymal olaf un y tymor.

Evans o Ddinas Mawddwy yw'r Cymro cyntaf erioed i gipio'r teitl.

Fe aeth y frwydr am y bencampwriaeth yr holl ffordd i'r Cymal Cyffro, gyda dim ond un pwynt yn gwahanu Evans a Solberg cyn y cymal hwnnw.

Cip ar y car

Nos Iau fe fydd cyfle i bobl bro enedigol Elfyn Evans ddod i'w longyfarch, a chael cip ar y car ddaeth a llwyddiant iddo.

Bydd y digwyddiad "yn gyfle i groesawu Elfyn adref, ac yn gyfle i gefnogwyr glywed sut y sicrhaodd deitl pencampwr y byd ar ôl diweddglo dramatig ar gymal olaf un y tymor" meddai'r trefnwyr.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal o 17:45 ymlaen ar Sgwâr Eldon yn Nolgellau. 

​Bydd Elfyn yn gyrru ei gar rali Toyota Yaris Rally1 i'r sgwâr, lle bydd y car hefyd yn cael ei arddangos. 

Hefyd fe fydd cyfle i gefnogwyr glywed am ei dymor cyffrous ac i glywed sut deimlad yw bod y gyrrwr cyntaf erioed o Gymru i ennill Pencampwriaeth Rali’r Byd. 

O achos y digwyddiad fe fydd cyfyngiadau parcio mewn lle am gyfnod, gyda pharcio ar gyfer y digwyddiad yn y Farchnad Da Byw yn unig. 

Ni fydd maes parcio Marian Mawr ar gael, gan y bydd ar gau o 08:00 ar y diwrnod.

Bydd cyfyngiadau parcio yn Sgwâr Eldon hefyd, a ni fydd modd parcio yno o 13:00 ddydd Iau. 

Bydd y ffordd drwy Sgwâr Eldon ar gau yn gyfan gwbl rhwng 15:30 a 20:00.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.