'Miloedd o achosion o dwyll, gordaliadau a chamgymeriadau' mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru

Catherine Mealing-Jones

Mae miloedd o achosion o dwyll, gordaliadau a chamgymeriadau wedi eu canfod mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan yr Archwilydd Cyffredinol.

Cafodd 5,472 o achosion eu canfod drwy’r Fenter Twyll Genedlaethol, sy’n cymharu data gan gyrff cyhoeddus er mwyn dod o hyd i daliadau anghywir ac achosion posib o dwyll.

Roedd cyfanswm gwerth yr achosion, gan gynnwys amcangyfrif o golledion a gafodd eu hatal, yn £8.7m.

Roedd nifer yr achosion a gofnodwyd rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2026 wedi cynyddu 26%, a’u gwerth wedi cynyddu £1.6 miliwn, o gymharu â’r ymarfer blaenorol.

Nid twyll oedd wrth wraidd pob achos. Roedd y ffigurau hefyd yn cynnwys camgymeriadau a gordaliadau.

Dywedodd Catherine Mealing-Jones, Archwilydd Cyffredinol Cymru, bod angen rhwystro twyll, gordaliadau a gwallau sy’n “gallu lleihau ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

“Mae sicrhau bod twyllwyr yn cael eu hadnabod, a bod pob punt o arian cyhoeddus yn cael ei gwario’n ddoeth ar wasanaethau sydd o bwys i bobl Cymru gan adlewyrchu’r hyn y mae ganddynt hawl iddo, yn hollbwysig.

“Dyna pam y byddwn ni’n parhau i ddatblygu ein gwaith ar y Fenter Twyll Genedlaethol gan ein bod ni’n gwybod bod mwy y gallwn ni a chyrff cyhoeddus ei wneud.”

Gostyngiadau treth gyngor

Gostyngiadau treth gyngor i bobl sy’n byw ar eu pen eu hunain oedd yn gyfrifol am y gyfran fwyaf o’r cyfanswm ariannol.

Cafodd 1,825 o ostyngiadau eu canslo am nad oedd y bobl oedd yn eu cael yn gymwys.

Roedd £1.2m o ostyngiadau eisoes wedi cael eu rhoi ar gam, ac mae’r adroddiad yn amcangyfrif bod canslo’r hawliadau wedi atal £1.8m arall o golledion.

Ond mae’r adroddiad yn dweud nad oedd rhai cynghorau’n gwneud digon i wirio achosion posib.

Dywedodd 10 o’r 22 cyngor yng Nghymru eu bod yn defnyddio cwmnïau allanol yn lle’r fenter i wirio hawliadau am ostyngiadau person sengl.

O’r 12 arall, ni wnaeth pump wirio unrhyw achosion mewn un adroddiad oedd yn nodi cartrefi lle’r oedd y gofrestr etholiadol yn awgrymu bod mwy nag un oedolyn yn byw yno.

Dim ond tri achos rhyngddynt gafodd eu gwirio gan ddau gyngor arall.

Bathodynnau glas a rhestrau tai

Cafodd bron i 2,800 o fathodynnau parcio glas eu canslo hefyd, cynnydd o 78% o gymharu â’r ymarfer blaenorol.

Roedd y rhan fwyaf o’r achosion hynny’n ymwneud â phobl oedd wedi marw heb i’r cynghorau wybod. Nid yw hynny ynddo’i hun yn golygu bod rhywun wedi camddefnyddio’r bathodynnau.

Cafodd 330 o geisiadau gan bobl nad oedd yn gymwys eu tynnu oddi ar restrau aros am dai. Roedd 141 o’r rheiny yn ymwneud â phobl oedd wedi marw.

Mewn un achos arall, roedd bwrdd iechyd wedi talu tua £26,000 mewn cyflog ar gam i unigolyn am chwe mis ar ôl iddo adael ei swydd.

Roedd yr unigolyn yn gweithio i fwrdd iechyd arall yn ystod y cyfnod. Mae’r arian wedi cael ei adennill.

Angen gweithredu’n gynt

Yn ôl Archwilio Cymru, roedd cyrff cyhoeddus wedi ymgysylltu’n well â’r ymarfer diweddaraf, ond roedd angen gwella pa mor gyflym yr oedd rhai’n gwirio achosion a sut yr oeddent yn cofnodi’r canlyniadau.

Roedd 50 o gyrff cyhoeddus Cymru yn rhan o’r ymarfer.

Ers i’r Fenter Twyll Genedlaethol ddechrau ym 1996, mae cyfanswm gwerth y twyll, y gordaliadau a’r camgymeriadau a gafodd eu canfod neu eu hatal drwy’r fenter yng Nghymru wedi cyrraedd £65.2 miliwn.

Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.

Mae’n gyfrifol am archwilio’r mwyafrif o’r arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru bob blwyddyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.