Ail Refferendwm Annibyniaeth i'r Alban: Galw ar Andy Burnham i 'fwrw ati'

Andy Burnham

Mae disgwyl i Brif Weinidog y DU Andy Burnham gael ei herio gan un o aelodau seneddol yr SNP sy'n mynnu y dylai ganiatáu ail refferendwm am annibyniaeth yn Yr Alban.

Fe fydd Stephen Flynn, Ysgrifennydd yr Economi, Twristiaeth a Thrafnidiaeth a chyn-arweinydd yr SNP yn San Steffan, yn galw ar Mr Burnham i gynnig "dewis cyfansoddiadol" i bleidleiswyr yr Alban wrth agor cynhadledd y blaid ddydd Iau.

Draw yn Aberdeen, fe fydd Mr Flynn yn defnyddio ei araith yn y gynhadledd i herio'r Prif Weinidog.

Mae disgwyl iddo ddweud fod y neges i Andy Burnham yn "syml":

"Os yw e'n credu bod statws y Deyrnas Unedig yn un gwerth ei hachub - cer amdani - gad i bobl yr Alban benderfynu."

Prif Weinidog 'olaf' y DU

Daw'r gynhadledd wedi i arweinwyr datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ddatgan bod “amser San Steffan yn dod i ben” wrth gwrdd yng Nghaerdydd fis diwethaf.

Roedd Prif Weinidog yr Alban, John Swinney, yn bresennol yn y cyfarfod ac mae eisoes wedi datgan ei ddymuniad am refferendwm arall cyn 2031.

Mae hefyd wedi datgan ei fod yn credu mai Mr Burnham - y mae disgwyl iddo ymweld â'r Alban ddydd Gwener - fydd Prif Weinidog olaf y Deyrnas Unedig.

Mae Andy Burnham wedi dweud mai dim ond gyda chydsyniad Senedd San Steffan y byddai modd cynnal refferenda.

Fe fydd Stephen Flynn hefyd yn dweud yn ei araith y bydd unrhyw ddadl ynghylch dyfodol yr Alban yn "ddewis cyfansoddiadol rhwng uchelgais Plaid Genedlaethol yr Alban, a gweledigaeth gul San Steffan".

Bydd Mr Flynn yn dweud wrth gefnogwyr y blaid: “Ni yw plaid annibyniaeth. Mae gennym weledigaeth ar gyfer yr Alban. Nid un sydd wedi’i gwreiddio mewn atgofion am yr hyn oedd y wlad ar un adeg, ond yn hytrach yr hyn y gall y wlad fod.”

Bydd Mr Flynn hefyd yn sôn am sut mae “llwyddiant etholiadol” y pleidiau cenedlaetholgar wedi cael “canlyniadau pellgyrhaeddol ar draws yr ynysoedd hyn”.

Mae disgwyl iddo hefyd ddweud nad oes “unrhyw amheuaeth bod llwyddiant etholiadol ein cyfeillion ym Mhlaid Cymru yng Nghymru, a’n llwyddiant ni yma yn yr Alban, wedi dod â chyfnod prif weinidog arall yn San Steffan mewn grym i ben”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.