Yr Wyddfa: Ymgyrchydd asgell dde’n codi baneri Jac yr Undeb, a chodi gwrychyn cerddwyr
Mae ymgyrchydd asgell dde wedi codi gwrychyn cerddwyr ar ôl iddo osod baneri Jac yr Undeb ar gopa'r Wyddfa.
Ryan Bridge yw cyd-sylfaenydd Raise The Colours, grŵp dadleuol sy'n gosod fflagiau'r Undeb a gwledydd y DU ar bolion lamp strydoedd.
Y bwriad meddai'r mudiad yw i "hyrwyddo balchder cenedlaethol, undod, a gwladgarwch" - ond mae gwrthwynebwyr yn dadlau fod hyn yn creu rhwygiadau mewn cymdeithas.
Mewn fideo a gafodd ei rannu gan Raise The Colours, mae Mr Bridge yn cael ei weld ger nifer o fflagiau'r Undeb ar gopa'r Wyddfa, cyn cael ei weld yn dadlau gyda cherddwyr eraill.
Mae un cerddwr yn dweud wrtho: "Mae pawb yn dod i fyny yma, yn cael diwrnod braf ac rydych chi yma yn lledaenu iaith casineb. Pam fod yn rhaid i bawb arall ddelio gyda hynny?"
Fe wnaeth Mr Bridge wadu ei fod yn lledaenu iaith casineb.
Fe gafodd Mr Bridge hefyd ei gwestiynu gan fyfyrwyr meddygol ar y copa.
Dywedodd ei fod yn berchen ar sawl cwmni a'i fod yn cyflogi pobl o wahanol gefndiroedd.
Pan ofynnwyd iddo am ei bresenoldeb yng ngogledd Cymru, fe eglurodd Mr Bridge fod hynny oherwydd nad oedd eisiau'r "cychod ddod yma yn anghyfreithlon".
Fe gafodd Mr Bridge ei gyhuddo ym mis Medi o gyfres o droseddau gan gynnwys aflonyddu wedi'i ysgogi gan hiliaeth, ymddygiad bygythiol ac ymosod.
Dywedodd Heddlu Dyffryn Tafwys fod Bridge wedi ei gyhuddo o 14 o droseddau dros gyfnod o ddau fis yn Sir Rhydychen yn gynharach eleni.
Mae'n gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Ym mis Gorffennaf, cafodd Cyngor Sir Rhydychen waharddeb gan yr Uchel Lys i atal pobl rhag gosod baneri ger priffyrdd oherwydd pryderon diogelwch a thresbasu.