'Arwyddocaol': Prosiect i ostwng uchder hen adweithyddion gorsaf niwclear Trawsfynydd

Gorsaf niwclear Trawsfynydd

Mae prosiect ar y gweill i ostwng uchder hen adweithyddion gorsaf niwclear Trawsfynydd yng Ngwynedd.

Y llynedd, fe enillodd y cwmni peirianyddol Costain gytundeb gwerth £70 miliwn i barhau â’r gwaith i ddadgomisiynu’r orsaf, a gychwynnodd ar ôl iddi orffen cynhyrchu ynni ym 1991.

Mae rheolaeth dros adeiladau’r safle bellach wedi ei throsglwyddo i’r cwmni gan y corff llywodraethol, Gwasanaethau Adfer Niwclear.

Un o “brosiectau mwyaf arwyddocaol” y cwmni nawr fydd i leihau maint y ddau adeilad adweithydd o 54 metr i 25 metr.

Image
Traws
Darlun o sut y bydd y safle yn edrych ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau (Llun: Gwasanaethau Adfer Niwclear)

Yn ôl y cwmni, fe fydd y gwaith yn “trawsnewid yr olygfa o’r safle, gan arwain at y newid mwyaf gweledol yn Nhrawsfynydd ers degawdau.”

Mae disgwyl i'r prosiect cyfan gymryd pedair blynedd i'w gwblhau.

Yn ôl Gwasanaethau Adfer Niwclear, fe fydd y prosiect yn creu dros 100 o swyddi gyda Costain ar ei anterth.

“Fe fydd y prosiect yn dod â buddion eang i’r ardal, gan gefnogi cyflogaeth, datblygiad sgiliau, prentisiaethau a chyfleoedd i fusnesau lleol a chymunedau,” meddai llefarydd.

'Cam pwysig ymlaen'

Mae trosglwyddo’r safle i ddwylo’r cwmni yn “cynrychioli cyflawniad llwyddiannus o gyfnod paratoi sylweddol sydd yn adlewyrchu’r cynnydd sydd wedi’i wneud i ddod ag un o brosiectau dadgomisynu mwyaf arwyddocaol y DU yn agosach at ei derfyn.”

Mae craen eisoes wedi cyrraedd y safle er mwyn cynorthwyo gwaith i osod sgaffaldau, hoist ac is-adeiledd trydanol.

Yn 2027 fe fydd dau graen tŵr mawr yn cael eu codi y tu mewn i’r adeiladau adweithydd, sydd yn “rhan allweddol o’r broses dadgomisiynu”.

Dywedodd Tom Williams, Cyfarwyddwr Safle Trawsfynydd NRS: “Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn adlewyrchu blynyddoedd o gynllunio, paratoi a chydweithio gan ein gweithlu ymroddedig a’n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi.

“Yn ogystal â bod yn gam pwysig ymlaen yn y broses o ddadgomisiynu, bydd y prosiect yn creu cyfleoedd i bobl a busnesau lleol, gan helpu i sicrhau bod y manteision yn cael eu teimlo y tu hwnt i ffiniau’r safle.

“Mae gan Drawsfynydd rôl bwysig fel un o safleoedd arweiniol NRS ar gyfer dysgu a rhannu profiadau.

"Bydd y profiad a gaiff ei ennill drwy’r prosiect hwn yn helpu i lywio rhaglenni dadgomisiynu yn y dyfodol ar draws safleoedd eraill NRS, ac yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau, gwybodaeth ac arferion gorau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.