Donald Trump yn atal darllediad byw o ddienyddio carcharor drwy saethu
Mae'r Arlywydd Donald Trump wedi cyhoeddi na fydd y broses o ddienyddio carcharor drwy ei saethu'n cael ei ffrydio'n fyw, er y bydd Nidal Hasan yn parhau i gael ei saethu'n farw cyn diwedd y flwyddyn.
Cafodd Hasan ei ddedfrydu i farwolaeth ar ôl iddo saethu 13 o filwyr yn farw mewn gwersyll milwrol yn Fort Hood, Texas, yn 2009 tra'r oedd yn gweithio yno fel seiciatrydd.
Cafodd 32 o filwyr eraill eu hanafu yn yr ymosodiad.
Fe achosodd y cyhoeddiad y byddai ei ddienyddio'n cael ei ffrydio'n fyw wrthwynebiad mawr o wledydd ar draws y byd.
Roedd dirprwy Donald Trump, J.D. Vance, ynghyd ag arweinwyr crefyddol, hefyd wedi lleisio eu hanfodlonrwydd gyda'r cynllun i ddarlledu'r digwyddiad yn fyw.
Pan gaiff ei saethu'n farw ar 3 Rhagfyr, Hasan fydd y dyn cyntaf i gael ei ddienyddio drwy ei saethu mewn 60 o flynyddoedd yn yr UDA.
Mewn neges dydd Iau, dywedodd yr Arlywydd Trump: "Rwy'n credu y gallai darlledu'r dienyddiad, fel y gallai pawb ei weld, fod wedi bod yn ffordd bwerus o atal eraill - gan ddangos i'r byd sut mae America yn delio â therfysgwyr a sothach fel Hasan.
"Bydd yn marw, yn unol â'r amserlen, o flaen sgwad saethu, ond ni fydd y digwyddiad hwn yn cael ei ddarlledu," ychwanegodd.