ASau Môn yn datgan ‘siom’ wrth i her gyfreithiol yn erbyn fferm solar fethu
Mae Aelod Senedd Cymru ac Aelod Senedd San Steffan Ynys Môn wedi datgan eu bod yn “siomedig iawn” wedi i her gyfreithiol gan Gyngor Sir Ynys Môn yn erbyn fferm solar ar yr ynys fethu.
Bydd datblygiad Alaw Môn yn gosod paneli solar dros 660 erw o dir ger Llyn Alaw yng nghanol yr ynys.
Byddai’r fferm solar yn gorchuddio 2% o dir yr ynys, ac yn cael ei hadeiladu ar dir amaethyddol yn bennaf.
Mae cwmni Enso Energy wedi dweud y bydd y parc yn pweru 33,935 o dai ac yn creu 160MW o ynni solar adnewyddadwy.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ganiatáu'r datblygiad ym mis Awst.
Methodd cais gan y Cyngor Sir, sy'n gwrthwynebu'r cynllun, mewn adolygiad barnwrol ym mis Tachwedd, ac fe gadarnhaodd y cyngor ddydd Mawrth fod cais arall yn Uchel Lys Wrecsam wedi methu'r wythnos ddiwethaf.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Gary Pritchard, bod y “canlyniad yn un hynod o siomedig" ond eu bod yn derbyn dyfarniad y llys.
Ychwanegodd nad oedd “unrhyw lwybrau apelio pellach ar agor i Gyngor Sir Ynys Môn”.
Dywedodd Aelod o Senedd Cymru dros yr ynys, Rhun ap Iorwerth, a’r Aelod Seneddol Llinos Medi bod y cynllun “yn amlwg” yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru ei hun ar ddiogelu Tir Gorau a Mwyaf Amlbwrpas.
“Mae trigolion lleol wedi mynegi eu gwrthwynebiad i’r datblygiad hwn dro ar ôl tro, oherwydd ei effaith niweidiol ar ein tirweddau ac ar sectorau amaethyddol a thwristiaeth yr ynys, tra’n cynnig ychydig iawn o ran swyddi na budd economaidd ehangach,” meddai'r ddau mewn datganiad ar y cyd..
“Byddwn yn parhau i ddadlau y dylid gwrthod prosiectau solar maint diwydiannol eraill sy’n mynd trwy’r system gynllunio ar yr ynys ar hyn o bryd, ac y dylem ganolbwyntio yn lle ar gynyddu cynhyrchu ynni adnewyddadwy mewn ffyrdd eraill sy’n cynnig buddion cymunedol ac yn creu swyddi, yn ogystal â helpu’r amgylchedd.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.