Steve Tandy yn enwi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad
Mae Prif Hyfforddwr tîm cenedlaethol dynion Cymru, Steve Tandy, wedi enwi carfan o 38 o chwaraewyr ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2026.
Bydd Dewi Lake yn gapten ar y garfan, sydd â chyfanswm o 877 o gapiau rhyngddyn nhw.
Bydd asgellwr Caerlŷr Gabriel Hamer-Webb, a chanolwr Caerfaddon, Louie Hennessey yn gobeithio cynrychioli eu gwlad am y tro cyntaf.
Mae Tomas Francis wedi’i alw yn ôl i garfan Cymru am y tro cyntaf ers Cwpan Rygbi’r Byd yn 2023.
Mae James Botham, Sam Costelow, Ryan Elias, Josh Macleod, Mason Grady, Eddie James ac Owen Watkin hefyd yn dychwelyd i’r garfan ryngwladol.
Dywedodd Steve Tandy: "Ry’n ni wedi gwneud ychydig o newidiadau i’r garfan ers Cyfres yr Hydref.
“Mae rhai o’r rheiny o ganlyniad i anafiadau ond mae’r newidiadau eraill yn adlewyrchu gymaint o gystadleuaeth sydd gennym mewn gwahanol safleoedd ar hyn o bryd – ac mae hynny’n beth cadarnhaol iawn wrth gwrs.
"Dwi’n credu bod gennym garfan gytbwys wrth i ni baratoi ar gyfer yr ymgyrch hon a dwi’n edrych ymlaen yn fawr at yr wythnos nesaf pan fyddwn ni gyd yn dod at ein gilydd i ymarfer.
"Dwi’n gyffrous i gael gweld sut ry’n ni’n mynd i adeiladu ar y sylfeini wnaethon ni eu gosod yn yr Hydref a sicrhau hefyd ein bod yn parhau i dyfu a datblygu fel grŵp."
Ychwanegodd Tandy am y gapteiniaeth: "Mae Dewi yn ddyn arbennig sydd mor angerddol dros Gymru, ac mae hynny’n amlwg i bawb.
"Roedd ei arweinyddiaeth yn rhagorol yn ystod y gemau diwethaf - nid yn unig yn ystod y tair gêm y bu’n gapten ei hun ond hefyd yn y modd y gwnaeth gefnogi Jac cyn hynny.
“Dwi’n hollol hyderus y bydd yn parhau i wneud gwaith anhygoel fel capten yn ystod Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness."
Wythnos yn llai
Bydd y garfan gyfan yn dod at ei gilydd i ddechrau ar eu paratoadau ar gyfer y Bencampwriaeth ddydd Llun 26 Ionawr.
Bydd Cymru’n dechrau eu hymgyrch yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn 7 Chwefror oddi cartref yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Allianz, Twickenham.
Yr wythnos ganlynol bydd y Crysau Cochion yn dychwelyd i Gaerdydd i groesawu Ffrainc i Stadiwm Principality ar ddydd Sul 14 Chwefror am 15.10.
Bydd Cymru wedyn yn wynebu’r Alban yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn 21 Chwefror am 16:40 cyn cael eu hunig wythos rydd, sydd yn golygu y bydd yr holl gystadleuaeth wythnos yn llai eleni.
Taith i Ddulyn i wynebu Iwerddon am 20:10 ar nos Wener 6 Mawrth fydd her nesaf carfan newydd Steve Tandy wedi hynny, cyn dychwelyd adref wythnos yn ddiweddarach i groesawu’r Eidal am 16:40 ar gyfer eu gêm olaf o’r gystadleuaeth.
Gornest Cymru’n erbyn Yr Eidal fydd yr ail o dair y diwrnod hwnnw (14 Mawrth) wrth i’r Bencampwriaeth gyrraedd ei huchafbwynt.
Yn dilyn trafodaethau gyda threfnwyr y Chwe Gwlad y llynedd, cyhoeddwyd y bydd to Stadiwm Principality ar gau ar gyfer pob un o dair gêm gartref Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026.
Bydd cefnogwyr yn gallu dilyn Pencampwriaeth 2026 gyda sylwebaeth Gymraeg ar S4C.
Blaenwyr
Keiron Assiratti (Caerdydd – 19 cap)
Adam Beard (Montpellier – 61 cap)
Liam Belcher (Caerdydd – 4 cap)
James Botham (Caerdydd – 18 cap)
Rhys Carre (Saracens – 23 cap)
Ben Carter (Dreigiau – 14 cap)
Olly Cracknell (Leicester Tigers – 2 cap)
Harri Deaves (Gweilch – 1 cap)
Ryan Elias (Scarlets – 44 cap)
Tomas Francis (Provence Rugby – 77 cap)
Archie Griffin (Bath Rugby – 11 cap)
Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs – 26 cap)
Dewi Lake (Gweilch – 26 cap) Capten
Alex Mann (Caerdydd – 11 cap)
Josh Macleod (Scarlets – 4 cap)
Taine Plumtree (Scarlets – 11 cap)
Nicky Smith (Leicester Tigers – 58 cap)
Gareth Thomas (Gweilch – 44 cap)
Freddie Thomas (Caerloyw – 7 cap)
Aaron Wainwright (Dreigiau – 62 cap)
Olwyr
Josh Adams (Caerdydd – 65 cap)
Sam Costelow (Scarlets – 19 cap)
Dan Edwards (Gweilch – 7 cap)
Jarrod Evans (Harlequins – 14 cap)
Mason Grady (Caerdydd – 15 cap)
Kieran Hardy (Gweilch – 28 cap)
Gabriel Hamer-Webb (Leicester Tigers – heb gap)
Joe Hawkins (Scarlets – 7 cap)
Louie Hennessey (Bath Rugby – heb gap)
Eddie James (Scarlets – 4 cap)
Ellis Mee (Scarlets – 4 cap)
Reuben Morgan-Williams (Gweilch – 2 cap)
Blair Murray (Scarlets – 14 cap)
Louis Rees-Zammit (Bristol Bears– 35 cap)
Tom Rogers (Scarlets – 13 cap)
Ben Thomas (Caerdydd – 17 cap)
Owen Watkin (Gweilch – 43 cap)
Tomos Williams (Gloucester Rugby – 67 cap)