Dim cyhuddiadau pellach yn erbyn y llofrudd plant Lucy Letby

Lucy Letby

Ni fydd y llofrudd Lucy Letby yn wynebu unrhyw gyhuddiadau pellach yn dilyn ymchwiliad yn 2025 i honiadau o lofruddio ac ymgais i lofruddio naw o blant yn yr ysbytai lle'r oedd hi'n arfer gweithio ynddynt.

Cafodd Letby o Henffordd ei dedfrydu yn 2024 i 15 o ddedfrydau am oes ar ôl iddi gael ei chanfod yn euog o lofruddio saith baban a cheisio lladd chwe baban arall, gan geisio lladd un ohonynt ar ddau achlysur.

Digwyddodd y troseddu rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.

Fe fethodd y rheithgor yn yr achos llys gwreiddiol yn ei herbyn yn 2022-23 â dod i benderfyniad.

Honiadau newydd

Trosglwyddodd Heddlu Sir Gaer dystiolaeth ychwanegol i Wasanaeth Erlyn y Goron y llynedd, yn gysylltiedig ag wyth trosedd posib o geisio llofruddio ac un drosedd posib o lofruddiaeth yn Ysbyty Countess of Chester.

Roedd dau honiad arall o geisio llofruddio a llofruddiaeth yn ymwneud ag un plentyn yn Ysbyty Menywod Lerpwl.

Tystiolaeth

Dywedodd Frank Ferguson, pennaeth Adran Troseddau Arbennig a Gwrthderfysgaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Derbyniom ffeil o dystiolaeth gan Heddlu Sir Gaer ym mis Gorffennaf 2025 yn gofyn i ni ystyried honiadau pellach yn erbyn Lucy Letby, 36 oed, yn ymwneud â marwolaethau a chwympiadau anangheuol babanod yn Ysbyty Countess of Chester ac Ysbyty Menywod Lerpwl.

“Yn dilyn adolygiad trylwyr o’r dystiolaeth honno, rydym wedi penderfynu na ddylid dwyn unrhyw gyhuddiadau troseddol mewn perthynas â’r honiadau pellach hynny.

“Ystyriodd Gwasanaeth Erlyn y Goron droseddau llofruddiaeth ac ymgais i lofruddio mewn perthynas â dau faban a fu farw ac ymgais i lofruddio mewn perthynas â saith o fabanod a oroesodd.

“Daethom i’r casgliad nad oedd y prawf tystiolaethol wedi’i fodloni yn yr un o’r achosion hynny."

Ychwanegodd: “Fel bob amser, gwnaed y penderfyniad hwn yn annibynnol, yn seiliedig ar y dystiolaeth ac yn unol â’n prawf cyfreithiol.

“Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi ysgrifennu at y teuluoedd dan sylw a bydd yn cynnig cyfarfodydd i esbonio ein proses gwneud penderfyniadau yn fanylach. 

"Mae ein meddyliau’n parhau gyda nhw.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.