Cymdeithas Bêl-droed Cymru i geisio dyblu nifer y menywod a merched sy'n chwarae pêl-droed erbyn 2036

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Pel-droed menywod

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) eisiau dyblu nifer y menywod a merched sy'n chwarae pêl-droed yng Nghymru dros y degawd nesaf, fel rhan o strategaeth newydd.

Ar hyn o bryd mae 20,000 o chwaraewyr benywaidd cofrestredig yng Nghymru, gyda'r gymdeithas wedi gosod targed o gynyddu'r nifer hwnnw i 40,000 erbyn 2036.

Mae sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cynnig cyfleoedd i ferched chwarae pêl-droed a dyblu'r buddsoddiad yn y gêm hefyd ymhlith prif amcanion y strategaeth.

Mae'r cynllun 10 mlynedd, sydd wedi ei enwi'n Her Game, Ei Dyfodol, yn adeiladu ar gynnydd pêl-droed menywod a merched yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Cafodd strategaeth gyntaf y gymdeithas ar gyfer pêl-droed menywod a merched ei chyhoeddi yn 2021, gyda thîm cenedlaethol y menywod yn cyrraedd twrnamaint mawr am y tro cyntaf yn eu hanes yn 2025.

"Mae mwy o ferched nag erioed yn datblygu diddordeb mewn pêl-droed," meddai'r gymdeithas.

"Ein huchelgais yw sicrhau bod pob merch yn cael y cyfle i brofi pêl-droed mewn amgylchedd lle y gall hi ffynnu, teimlo ymdeimlad o berthyn a chyflawni ei photensial."

Cadw merched yn y gêm

Fel rhan o'r strategaeth newydd, mae'r gymdeithas eisiau dyblu nifer y merched rhwng pump ac 11 oed sydd wedi cofrestru i chwarae pêl-droed.

Ond yn ogystal â denu mwy o ferched i'r gêm, mae'r gymdeithas yn awyddus i fynd i'r afael â'r rhesymau pam bod merched yn rhoi'r gorau i chwarae pêl-droed yn ystod eu harddegau.

Y nod yw haneru nifer y merched rhwng 12 ac 17 oed sy'n gadael y gêm.

Mae'r gymdeithas hefyd eisiau creu mwy o gyfleoedd i fenywod roi cynnig ar bêl-droed am y tro cyntaf neu ddychwelyd i'r gêm, gyda'r nod o sicrhau bod 2,000 yn fwy o fenywod yn chwarae pêl-droed yn hamddenol.

Mae targed hefyd wedi ei osod i gynyddu nifer y menywod a merched cofrestredig sy'n chwarae pêl-droed anabledd i 500, sef cynnydd o 400%.

Image
Mae nifer y merched sydd yn chwarae pêl-droed yng Nghymru wedi codi 58% rhwng 2022 a 2025

Dyblu'r buddsoddiad

Er mwyn ymateb i'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y chwaraewyr, mae CBDC eisiau dyblu'r buddsoddiad mewn pêl-droed menywod a merched dros y degawd nesaf.

Mae gwella mynediad at gyfleusterau chwarae yn rhan allweddol o'r cynllun, gyda'r gymdeithas eisiau sicrhau bod 60 o gaeau artiffisial newydd yn cael eu darparu a fydd o fudd penodol i chwaraewyr benywaidd.

Mae'r gymdeithas hefyd am weld mwy o fenywod yn ymgymryd â rolau oddi ar y cae.

Ymhlith y targedau eraill sydd wedi eu cynnwys yn y strategaeth mae:

-Cynyddu nifer yr hyfforddwyr benywaidd gweithredol 40%;

-Cynyddu nifer y dyfarnwyr benywaidd cofrestredig 25%;

-Sicrhau bod menywod yn cynrychioli 50% o fwrdd, cyngor a gweithlu CBDC;

-Dyblu'r nifer cyfartalog o gefnogwyr sy'n mynychu gemau'r Adran Premier;

-Cynyddu buddsoddiad masnachol yng Nghynghreiriau Adran o leiaf 200%.

Ar hyn o bryd mae 594 o hyfforddwyr benywaidd gweithredol a 56 o ddyfarnwyr benywaidd gweithredol yng Nghymru, yn ôl ffigurau'r gymdeithas.

Uchelgais Cwpan y Byd

Mae'r gymdeithas hefyd wedi gosod nifer o dargedau ar gyfer tîm cenedlaethol y menywod, gan gynnwys cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 2035.

Mae'r strategaeth yn amlinellu uchelgais i Gymru gystadlu mewn hanner y prif dwrnameintiau rhyngwladol, yn ogystal â sicrhau bod y tîm cenedlaethol yn gyson ymhlith y 24 tîm gorau yn y byd.

Mae CBDC hefyd eisiau cynyddu'r nifer uchaf erioed o gefnogwyr sydd wedi mynd i un o gemau tîm cenedlaethol y menywod o 16,845 i 25,000.

Yn ogystal â chynnal Cwpan y Byd yn 2035, mae'r gymdeithas wedi gosod targed o gynnal rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr y Menywod yn 2029 a Phencampwriaeth Ewrop i fenywod dan 19 oed yn 2030.

"Dros y degawd nesaf, mae gan bêl-droed benywaidd yng Nghymru y potensial i drawsnewid ymhellach," meddai'r gymdeithas.

"Trwy'r strategaeth hon, byddwn yn adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi'i gyflawni ac yn creu cyfleoedd newydd i fenywod a merched gymryd rhan, mwynhau, perthyn a llwyddo mewn pêl-droed."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.