Llys yn clywed i ddyn ladd ei lysfab pan oedd yn 'llawn cynddaredd'
Mae manylion yn yr erthygl hon allai beri loes.
Mae llys wedi clywed sut gwnaeth dyn o ardal Gorseinon, ladd ei lysfab pan oedd wedi gwylltio.
Mae Thomas Morgan, 29 oed, yn gwadu lladd Jensen-Lee Dougal, oedd yn bum mis oed, yn eu cartref yn Sir Abertawe.
Clywodd Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth fod Morgan wedi ei gyhuddo o achosi anafiadau angheuol i'r baban ar ôl ei ysgwyd pan oedd yn "llawn cynddaredd" yn dilyn ffrae gyda'i gyn-gariad yn gynharach y diwrnod hwnnw.
Gadawodd yr ymosodiad honedig y plentyn gydag anafiadau difrifol i'w ymennydd, esgyrn wedi eu torri, a gwaedu yn ei lygaid.
Mae Morgan wedi ei gyhuddo o lofruddio Jensen-Lee ac mae'n wynebu tri chyhuddiad o achosi anafiadau corfforol difrifol yn fwriadol.
Clywodd y llys fod Morgan mewn perthynas gyda mam Jensen-Lee, Jordan Dougal, ac roedd yn cael ei ystyried fel llysdad y plentyn.
'Ymddiriedaeth'
Dywedodd Caroline Rees KC ar ran yr erlyniad fod Morgan wedi “camddefnyddio’r ymddiriedaeth a roddwyd ynddo’n ddifrifol” drwy anafu’r baban, gyda’r anaf mwyaf difrifol wedi’i achosi ar 30 Mawrth 2024, y diwrnod cyn i Jensen-Lee farw.
Wrth agor yr achos, dywedodd Ms Rees fod Morgan wedi dadlau â Georgia Griffiths, ei gyn-bartner, yn gynharach y diwrnod hwnnw.
Mewn negeseuon blin yn dilyn y ffrae, galwodd Morgan enwau arni fel “llygoden fawr ddrewllyd” a “chi bach drewllyd”.
Cafodd Thomas Morgan ei adael ar ei ben ei hun gyda Jensen-Lee tra bod Ms Dougal yn mynd i’r gwaith.
Dywedodd Ms Rees: “Mae’n amlwg bod y cyfnewid camdriniol hwn wedi achosi rhyw fath o newid yn Thomas Morgan."
“Erbyn iddo fod ar ei ben ei hun gyda Jenson-Lee, roedd yn flin ac yn ymosodol ac nid oedd mewn unrhyw gyflwr meddyliol i ofalu am fabi ifanc ar ei ben ei hun.”
Galwad ffôn
Tra yn y gwaith, derbyniodd Ms Dougal alwad gan Morgan yn dweud wrthi fod y babi yn tagu ac roedd wedi rhoi’r gorau i anadlu.
Gadawodd y diffynnydd y tŷ gan gario'r baban, i gael cymorth gan gymydog, a wnaeth gynnal triniaeth CPR ar Jensen-Lee cyn galw am ambiwlans.
Cafodd y plentyn ei gludo i'r ysbyty ac fe wnaeth meddygon ddarganfod fod ganddo anaf “dinistriol” i’w ymennydd.
Cafodd ei dynnu oddi ar beiriant cynnal bywyd y diwrnod canlynol.
Mae'r achos yn parhau.